Y Celfyddydau Creadigol a Gweledol

 

Y Celfyddydau Creadigol ar Gampws Gorseinon

Rydym yn cynnig cyrsiau celf greadigol sefydledig ar lefel Safon Uwch mewn Dylunio Tecstilau, Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Graffig a Ffotograffiaeth. Bwriedir y cyrsiau celf sylfaenol hyn i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa ar lefel broffesiynol. Cânt eu haddysgu yn ein canolfan bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio. Mae’r amgylchedd ysbrydoledig hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu creadigrwydd unigryw eu hunain mewn meysydd astudio arbenigol.

Addysgir y cyrsiau trwy ddarlithoedd, gweithdai ysgogol dan arweiniad artistiaid/tiwtoriaid ac astudio annibynnol. Cefnogir y mygfyrwyr hefyd gan sesiynau tiwtorial rheolaidd a thrafodaethau grŵp.

Mae cystadlaethau’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr ehangu eu harddull unigryw a datblygu profiadau allgyrsiol.

Trefnir gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn i arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau eraill o ddiddordeb.

Cynhelir arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn sy’n arddangos ac yn dathlu gwaith unigryw a chreadigol y myfyrwyr.

 

Y Celfyddydau Gweledol ar Gampws Llwyn y Bryn

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu haddysgu ar gampws hanesyddol Llwyn y Bryn. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Celfyddydau Gweledol amser llawn mewn Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, a Ffasiwn a Thecstilau. Addysgir y cyrsiau hyn gan ymarferwyr rhagorol sydd â chyfoeth o brofiad addysgu a phrofiad o fyd diwydiant.  Mae ein canlyniadau sy’n arwain y sector yn adlewyrchu hyn, gyda nifer fawr o ddysgwyr yn symud ymlaen yn rheolaidd i brifysgolion blaenllaw y Celfyddydau, a’n llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle mae dysgwyr wedi ennill Aur yng nghategorïau Cerddoriaeth, Celf a Ffasiwn.

Ar gael hefyd mae amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser, prentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn.

Cynllunio ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau creadigol?

Mae cynifer o opsiynau ar gael – ewch ati i ymchwilio heddiw

Ewch i www.discovercreative.careers/cy 

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth

Arddangosfeyd Celf Rithwir

 

 

Lefel 3

Lefel A