Peirianneg Electronig

 

Mae’ch diwydiant peirianneg electronig lleol eich angen chi! Mae galw mawr am beirianwyr ifanc yn Ne Cymru.

Mae’r cyrsiau hyn ar gael ar Lefelau 2 a 3, gan roi modd i fyfyrwyr amser llawn gofrestru ar y cwrs sy’n briodol i’r cymwysterau sydd ganddynt eisoes. 

Mae cyrsiau rhan-amser ar gael hefyd.

Mae gennym gyfleusterau sy’n arwain y sector gan gynnwys labordy technoleg ddigidol a noddwyd gan Whirlpool.

Mae ein myfyrwyr wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau lleol a rhyngwladol gan gynnwys ennill mewn deg categori yng Nghynllun Addysg Beirianneg Cymru, ennill 18 medal yng NghystadleuaethSgiliauCymru (enillwyd Efydd, Arian ac Aur yn y gystadleuaeth ddiweddaraf), ac ennill dwy fedal Aur, un Arian ac un Efydd yn rownd derfynol WorldSkills UK.

Mae pum myfyriwr bellach yn aelodau o garfan WorldSkills UK a dewiswyd Rhys Watts i fod yn rhan o Team UK EuroSkills WorldSkills yn Graz.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth

Academi Nwyddau Gwyn a Brown

Rydym yn falch o weithio ar y cyd â'r Home Electrical Electronic Skills Training Forum (HEEST)

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cymorth gan gwmnïau nwyddau gwyn a brown ac mae hyn wedi rhoi modd i ni greu atebion hyfforddi pwrpasol ar gyfer y diwydiant. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu trwy ddysgu cyfunol, gan gynnwys:

  • Addysgu 'cwmwl'
  • Dosbarthiadau meistr sy'n cael eu cynnal yn ein gweithdy llawn cyfarpar a'n cyfleusterau labordy yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
  • Cynlluniau dysgu unigol
  • Gosodiadau cartref CAMPUS

Mae ffioedd cwrs ar gael ar gais.

"Mae’r cwrs wedi galluogi i fi wneud yr hyn oeddwn i am ei wneud. Bellach, dw i’n astudio yn un o brifysgolion gorau’r DU ar gyfer Peirianneg a dw i wedi cael profiad gwaith diolch i gysylltiadau gwych y Coleg â diwydiant."

Michael Jones, Technoleg Ddigidol