Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Rydym yn cynnig dosbarthiadau Saesneg am ddim (yn amodol ar gymhwystra) i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Mae nifer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau coleg/prifysgol neu i gyflogaeth.

Cynigir y cwrs ar y lefelau canlynol:

  • Mynediad 1 (dechreuwyr - A1*)
  • Mynediad 2 (elfennol - A2)
  • Mynediad 3 (cyn-ganolradd - B1)
  • Lefel 1 (canolradd - B2)
  • Lefel 2 (canolradd uwch - C11)

* A1, A2 ac ati, cyfeiriwch at y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin.

Yn ogystal, rydym yn cynnig dosbarthiadau paratoi ar gyfer arholiadau IELTS. Y gost yw £10 yr awr a byddwch yn astudio am o leiaf wyth wythnos.

Gofynion mynediad: Cyfweliad ac asesiad cychwynnol.

Ffoniwch 01792 284021 neu e-bostiwch esol@gcs.ac.uk

Gwella'ach sgiliau mathemateg, Saesneg a chyfrifiadura

  • Oes angen i chi wella’ch sgiliau mathemateg, Saesneg neu gyfrifiadura ar gyfer gwaith neu i ddilyn cwrs?
  • Hoffech chi helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref?
  • Hoffech chi wella’ch sgiliau cyfrifiadura?

Os ydych chi wedi ateb ie i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, gallwn eich helpu!

Ymunwch â’n dosbarthiadau Saesneg, mathemateg neu gyfrifiadura am ddim (yn amodol ar gymhwystra) nawr a gweithio tuag at ennill cymhwyster cydnabyddedig. Mae dosbarthiadau ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau ar hyd a lled Abertawe, gan gynnwys Campws Llwyn y Bryn.

Ffoniwch 01792 284021 neu e-bostiwch abe@gcs.ac.uk

Defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddysgu

QR Code

Roedd dysgwyr ABE ac ESOL wedi cymryd rhan yn y prosiect Sgiliau Hanfodol Rhanbarthol i ddatblygu sgiliau llythrennedd a llythrennedd digidol. Roedden nhw wedi mwynhau defnyddio iPads yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am hanes Abertawe drwy ddilyn llwybr cod QR.

Canlyniadau ESOL Ardderchog

Cafodd y dysgwyr ganlyniadau ardderchog eleni. Llwyddodd Pauline Gleed i gael presenoldeb 100%. Roedd Gonzalo Silvestre wedi pasio ei arholiadau a hefyd ennill cymhwyster mewn ysgrifennu creadigol, cael ei enwi'n Ddysgwr y Flwyddyn, ac erbyn hyn mae'n ddarlithydd a fydd yn addysgu dosbarthiadau Sbaeneg yn Nhycoch!

Fiona NeillGonzalo Silvestre

Cyfleoedd dilyniant

Mae rhai o'n dysgwyr Rhyngwladol yn symud ymlaen at raglenni Mynediad a Diploma Sylfaen Celf a Dylunio - da iawn chi!

Fiona Neill

Dysgwch Gymraeg hefyd!

Welsh Flag

Mae'r timau ESOL ac ABE wedi mynd i'r afael â rhai o sgiliau sylfaenol y Gymraeg a gweithgareddau ynganu diolch i Sgiliaith Cymru a'r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Anna Davies.