Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Os ydych yn chwilio am yrfa lewyrchus, byddai’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweddu i chi i’r dim – mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys nyrs feithrin, nani, gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr.
Rydym yn cynnig Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol o Lefel 1 hyd at Lefel 3 ac amrywiol opsiynau prentisiaeth hefyd.
Gallech chi hyd yn oed symud ymlaen i un o’n cyrsiau addysg uwch. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig Graddau Sylfaen mewn Gofal a Chymorth; Addysg, Dysgu a Datblygiad; a Phlentyndod Cynnar.
Mae ein myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gallu dysgu sgiliau newydd yn ward ffug y Coleg sy’n cynnwys gwelyau ysbyty, teclyn codi a sgrin pelydr-x.