Newyddion a Digwyddiadau
15
Maw
Pobl ifanc Cymru yn fuddugol yn y gystadleuaeth sgiliau genedlaethol
Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan ennill 96 o fedalau aur, 92 o fedalau arian a 97 o fedalau efydd.15
Maw
Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr AoC am Ehangu Cyfranogiad 23/24
Yn ddiweddar fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr AoC am Ehangu Cyfranogiad yn Noson Wobryo Beacon Cymdeithas y Colegau. Mae cannoedd o geisiadau’n cael eu cyflwyno o sefydliadau ledled y wlad bob blwyddyn, ac mae Gwobrau Beacon yn wobrau clodfawr tu hwnt ym maes addysg bellach. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 29 o flynyddoedd.08
Maw
Coleg yn cael ei wahodd i Rif 10 i drafod menopos yn y gweithle
Cafodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, ei gwahodd i Stryd Downing yr wythnos hon (dydd Llun 4 Mawrth) i ddechrau dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) 2024. Gwahoddwyd Sarah i gymryd rhan mewn sesiwn bord gron ar y Menopos yn y Gweithle cyn DRhM heddiw (dydd Gwener 8 Mawrth).04
Maw
Gwybodaeth bwysig am ein noson agored ar Gampws Gorseinon, Nos Llun 4 Mawrth 2024
Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n ystyried dod i’n noson agored ar Gampws Gorseinon Nos Llun 4 Mawrth (5.15pm – 7.30pm). Oherwydd ein gwaith ailwampio gwerth £17m ar y Campws – a fydd yn arwain at well cyfleusterau gan gynnwys lle cymdeithasol, atriwm newydd ac ystafelloedd dosbarth – mae’n bosibl y bydd pethau ychwanegol i’w hystyried cyn i chi ymweld â ni.26
Chwef