Electrical News

16
Ion
Jubilee Court Campus

Y Diweddaraf: Campws Llys Jiwbilî

Yn dilyn y broblem dros dro gyda’n cyflewnwad nwy ar Gampws Llys Jiwbilî (Adeilad B, Adeiladu) ddoe (dydd Mawrth 16 Ionawr), gallwn gadarnhau bod y mater wedi’i ddatrys yn brydlon a bod yr adeilad nawr yn gwbl weithredol. Bydd pob cwrs ar gyfer pob dysgwr yn parhau fel arfer o yfory ymlaen (dydd Iau 18 Ionawr).
10
Hyd
Staff a myfyrwyr Mynediad i Peirianneg yn sefyll mewn gweithdy peirianneg , yn edrych ar y camera

Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio cwrs Mynediad i Beirianneg newydd i’r rhai sydd am newid gyrfa a dysgwyr gydol oes

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad llwyddiannus ei gynnig addysgol diweddaraf sef y cwrs Mynediad i Beirianneg. Bydd dysgwyr yn gallu cofrestru ar y cwrs tan hanner tymor mis Hydref. Mae’n ddewis perffaith i’r rhai sy’n gobeithio dechrau gyrfa newydd neu ddychwelyd i fyd addysg ar ôl hoe eleni. 
31
Mai
Dysgwyr yn llyfrgell Campws Tycoch

Cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch: agor llwybrau i addysg a llwyddiant gyrfa

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU), gyda’r nod o rymuso unigolion 19 oed a hŷn gyda’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer mynediad llwyddiannus i addysg uwch.
20
Hyd

Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu pedwar myfyrwyr ysgoloriaeth rygbi newydd

Croeso cynnes iawn i'n myfyrwyr ysgoloriaeth rygbi eleni:
14
Hyd

Ymunwch â ni yn ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd

Eleni, mae ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd yn mynd yn rhithwir! Archwiliwch yr amrywiaeth o gyrsiau a gynigiwn, sgwrsiwch yn fyw â’n staff a chael cipolwg go iawn ar fywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe Beth allwch chi ei ddisgwyl o'r diwrnod?
24
Medi

Togetherall - cymuned ddiogel, anhysbys ar gyfer cymorth iechyd meddwl 24/7

Iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i’w helpu. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig gwasanaeth cymorth ardderchog ar-lein o’r enw Togetherall.
17
Ion

Prentisiaid yn barod ar gyfer rowndiau cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymbaratoi i groesawu rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth nodedig Prentis y Flwyddyn ar 24 Ionawr. Ymhlith y cystadleuwyr mae tri myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n gobeithio sicrhau lle yn Rownd Derfynol y DU yn Cheltenham ym mis Mawrth.
15
Maw
Lansio cyfleuster hyfforddi blaenllaw yn y sector

Lansio cyfleuster hyfforddi blaenllaw yn y sector

Mae cyfleuster newydd wedi cael ei lansio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a fydd yn cynnig amgylchedd hyfforddi blaenllaw yn y sector i drydanwyr sy'n gweithio mewn amodau peryglus.   Ariannwyd Canolfan Hyfforddi CompEx Abertawe, canlyniad cydweithrediad rhwng y Coleg a Gwasanaethau Peirianneg C&P, gan y Rhaglen Blaenoriaethau Sgiliau gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
13
Chwef
Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Bydd dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol yn y cystadlaethau trydanol a phlymwaith sydd ar fin cael eu cynnal. Cafodd Jay Popham ei enwi'n enillydd rhagbrawf rhanbarthol diweddar Cystadleuaeth Prentis Trydanol y Flwyddyn y DU SPARKS a gafodd ei gynnal ar gampws Llys Jiwbilî'r Coleg.
Subscribe to Gower College Swansea Feed