6 ffordd i wella eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol dros wyliau'r haf


Diweddarwyd 09/08/2017

Ychydig wythnosau ers dechrau'r gwyliau haf, rwy'n gobeithio bod myfyrwyr wedi dechrau ymlacio ac ailfywiogi ar ôl eu holl waith caled yn ystod yr arholiadau TGAU a Safon Uwch.  Gyda mis o wyliau ar ôl i'w fwynhau, bydd nifer yn chwilio am gyfleoedd a fydd yn eu rhoi ar y blaen yn yr yrfa o'u dewis neu yn y lle gwaith yn gyffredinol.  Yma, mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, yn sôn am chwe ffordd y gallai myfyrwyr ar draws Abertawe wneud y mwyaf o'u hamser dros yr haf i roi hwb i'w rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Cael swydd ran-amser - Efallai ei fod i'w weld yn amlwg, ond cael gwaith â thâl dros yr haf yw un o'r ffyrdd gorau i brofi i ddarpar gyflogwyr bod y sgiliau sylfaenol gennych i ragori yn y gweithle.  Mae'n werth argraffu rhai copïau cryno, wedi'u diweddaru o'ch CV a chymryd yr amser i ymweld â siopau a bwytai i esbonio eich bod yn chwilio am waith dros yr haf.  Bydd nifer o leoedd yn ymateb yn well i'r dull hwn na cheisiadau ar-lein, ac ni fydd pob swydd wag yn cael ei hysbysebu.  Bydd swydd ran-amser yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn profi eich gallu i weithio dan bwysau ac yn rhoi'r profiad i chi weithio mewn tîm, rhinweddau y bydd darpar gyflogwyr yn awyddus i'w gweld.

Dechrau blog neu vlog - Dyma un o'r ffyrdd gorau o hyd i gael presenoldeb ar-lein yn y maes sydd o ddiddordeb i chi, ac os gwnewch hynny'n dda, gall blog arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.  Mae blogiau yn rhoi cyfle i chi fynegi eich barn yn ddeallus trwy gyfrwng lle y gall pobl allweddol yn y maes hwnnw ymgysylltu â chi. Mae'n ffordd wych i ddatblygu ac arddangos eich sgiliau cyfathrebu, a bydd yn profi i gyflogwyr eich bod yn gallu gweithio i derfynau amser, yn ogystal â mynegi diddordeb a dealltwriaeth gynyddol o'u diwydiant.

Bod yn strategol ar y cyfryngau cymdeithasol - Dwi hi byth yn rhy gynnar i ymuno â Linkedin, a pheidiwch â gadael i ddiffyg profiad gwaith eich rhwystro rhag gwneud hynny.  Gallwch ddefnyddio eich proffil i amlinellu eich cefndir addysgol, unrhyw ddiddordebau penodol sydd gennych, a'ch uchelgais o ran gyrfa.  Mae Linkedin yn blatfform gwych i gysylltu â grwpiau a chwmnïau mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi, ac efallai y gallech greu cysylltiadau â phobl a allai eich helpu ar hyd y ffordd.

Gwirfoddoli - O ran gwirfoddoli, mae cymaint o gyfleoedd y gallech eu harchwilio dros yr haf, yn enwedig os nad oes llawer o amser rhydd gennych allwch chi ddim ymrwymo i wirfoddoli bob dydd neu bob wythnos. Boed yn waith elusennol, helpu mewn digwyddiadau lleol, neu gymryd rhan gyda'ch timau chwaraeon ieuenctid, mae'r dewisiadau yn helaeth - a gallwch chi ddysgu sgiliau newydd i'w trosglwyddo i yrfaoedd yn y dyfodol, yn ogystal â chael effaith gymdeithasegol gadarnhaol.

Ymarfer Perfformio - Ac ymuno â theatr ieuenctid, neu grŵp drama.  Does dim rhaid i chi fod yn berfformiwr profiadol i gymryd rhan, a gall y celfyddydau perfformio fod yn ffordd wych i gael hwyl a gwneud ffrindiau.  Mae hefyd yn ffordd dda i ymgyfarwyddo â siarad o flaen cynulleidfa - sgil allweddol y bydd cyflogwyr yn chwilio amdano - a bydd yn rhoi hwb mawr i'ch hyder.

Gwneud cais am brofiad gwaith - Er ei fod yn waith di-dâl yn aml, gall hwn fod yn un o'r ffyrdd cyflymaf i gael swydd yn y dyfodol o fewn y maes o'ch dewis, a gall cyfleoedd profiad gwaith roi'r cysylltiadau angenrheidiol i chi a'r cynnwys hollbwysig hwnnw ar gyfer eich CV a all wneud gwahaniaeth mawr yn y dyfodol.  Codwch y ffôn a gofynnwch y cwestiwn; fyddwch chi byth yn cael eich beirniadu am fod yn frwdfrydig a dangos blaengaredd.  Yn aml iawn bydd cwmnïau yn cynnig lleoliadau tymor byr gyda chyfrifoldebau go iawn, a gall fod cyfleoedd pellach i wneud gwaith â thâl os ydych yn perfformio'n dda.

Tags: