Beth sy'n dod nesaf? Y camau i lwyddiant ar gyfer myfyrwyr Abertawe


Diweddarwyd 09/08/2017

Erbyn hyn bydd myfyrwyr ar draws Abertawe yn edrych ymlaen at gael hoe haeddiannol dros yr haf ar ôl wynebu eu her addysgol fwyaf hyd yma: eu harholiadau TGAU.  Er bod nifer yn symud ymlaen i borfeydd newydd, mae rhai sydd dal yn penderfynu ar y camau nesaf ar eu taith addysgol.

I fyfyrwyr yn Abertawe, mae llawer o gyfleoedd i astudio ymhellach.  Dyma sut mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, yn gweld y camau nesaf tuag at lwyddiant.

Mae myfyrwyr wedi bod yn hynod brysur dros Gymru gyfan yn ystod y misoedd diwethaf.  I nifer ohonynt, mae'r arholiadau TGAU wedi bod yn heriol iawn ac mae myfyrwyr wedi treulio oriau maith yn adolygu a pharatoi.  Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn disgwyl ymlaen yn eiddgar at wyliau'r haf, ac yn llwyr haeddu cael hoe fach.

Gyda'r haf daw cyfle ac amser gwerthfawr hefyd i ystyried o ddifrif eich camau nesaf ar lwybr bywyd.  Ni fydd nifer o fyfyrwyr wedi penderfynu eto ble yr hoffen nhw fod ym mis Medi, ac mae hynny'n iawn.  Mae gwahanol gyfleoedd ar gael ac, yn dibynnu ar eich canlyniadau, gallai myfyrwyr ystyried symud ymlaen i astudio Safonau Uwch, cyrsiau galwedigaethol, neu hyd yn oed ymuno â'r gweithle yn syth.

Wrth gwrs, gall y dewis fod yn anodd.  Aros yn yr ysgol rydych wedi'i mynychu yn eich arddegau yw'r dewis hawsaf a mwyaf cysurus o bosibl, yn enwedig os yw'r chweched dosbarth yn cynnig cyrsiau sy'n apelio atoch.  Ond mewn sawl achos nid y dewis cysurus yw'r dewis mwyaf doeth bob amser - yn enwedig os oes gennych chi ddiddordeb mewn meysydd fel gwyddor chwaraeon, theatr dechnegol, adeiladu neu TG.

Mae rhai colegau yn cynnig cyrsiau arbenigol yn y meysydd hynny nad ydynt ar gael fel arfer mewn dosbarthiadau chweched dosbarth.  Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, er enghraifft, gallech ddechrau cwrs amser llawn mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd) neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Gallai cyrsiau eraill mewn Theatr Dechnegol eich arwain at yrfa ym maes rheoli llwyfan, goleuo a sain.  Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech osod y sylfeini ar gyfer dyfodol llwyddiannus ym maes gwaith adeiladu, trwy gofrestru ar un o'n cymwysterau newydd amrywiol mewn Gwaith Brics, Gwaith Coed neu Baentio ac Addurno.
 
Llwybr posibl arall yw ystyried y sector digidol sy'n tyfu'n gyson ac yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru o ran y cynnydd mewn swyddi a'r posibiliadau gyrfa.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynhyrchu meddalwedd neu'n teimlo'n angerddol am raglennu cyfrifiadurol, gall cymhwyster TG eich helpu i gael gyrfa yn un o'r sectorau sy'n tyfu'n gyflymaf yma yng Nghymru.

Os ydych yn dal i bendroni, efallai y byddai'n werth ystyried pa fath o yrfa yr hoffech chi ei dilyn, a hyd yn oed meddwl am sector neu ddiwydiant penodol.  Nid yw unrhyw un yn disgwyl i chi wybod yn union beth rydych am ei wneud i ennill bywoliaeth, ond efallai fod syniad da gennych chi bellach o'r hyn sydd o ddiddordeb i chi yn addysgol neu'n broffesiynol.  Mae wythnosau cyntaf yr haf yn amser gwych  i ddechrau ymchwilio pynciau a chyrsiau sy'n ymwneud â'r diddordebau hyn, a ble yw'r lle gorau i ddilyn y cyrsiau hyn.

Efallai fod gennych chi ddarlun clir o le byddech chi'n hoffi i'ch gyrfa ddechrau, ac os felly, byddai'n syniad da i ystyried y cymwysterau neu'r profiad penodol a allai fod yn ofyniad lleiaf i weithio yn y diwydiant hwnnw.  Pe byddech chi'n gwneud cais am gwrs peirianneg yn y brifysgol, er enghraifft, byddai angen cymwysterau Safon Uwch arnoch mewn pynciau fel mathemateg, ffiseg a mathemateg bellach o bosib, neu gwrs galwedigaethol priodol megis BTEC Diploma mewn Peirianneg.

Os nad ydych yn siŵr pa yrfa sydd o ddiddordeb i chi (ac mae hynny'n iawn wrth gwrs), efallai y byddwch yn dewis dilyn ystod eang o bynciau Safon Uwch ar lefel addysg uwch.  Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn categoreiddio eu dewisiadau pwnc yn grwpiau ac, os nad ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio Safonau Uwch, byddai'n werth ystyried pa bynciau rydych yn eu mwynhau orau a beth yw'ch cryfderau.  Trwy ddewis pynciau sy'n adlewyrchu eich cryfderau academaidd, rydych yn fwy tebygol o lwyddo a gwella eich gobeithion o fynd i'r brifysgol.  Mae Safonau Uwch yn fwy heriol na TGAU felly mae'n bwysig dewis pynciau rydych yn eu mwynhau i'ch helpu i gynnal eich brwdfrydedd a diddordeb pan fyddwch yn wynebu dyddiadau cau ar gyfer gwaith cwrs ac arholiadau.

Mae'r awyrgylch yn y chweched dosbarth neu'r coleg yn hollol wahanol i'r hyn rydych efallai yn gyfarwydd ag ef yn yr ysgol.

Mae colegau yn debycach i brifysgolion oherwydd mae'r myfyrwyr i gyd yn debyg o ran oedran ac ar gamau tebyg yn eu haddysg.  Yn achos nifer o golegau yng Nghymru, gan gynnwys Coleg Gŵyr Abertawe, mae'r cyfleusterau gystal â'r hyn y byddech yn ei gael yn y brifysgol.  Os ydych yn dilyn cwrs galwedigaethol, rydych hefyd yn debygol o fod yn gweithio gyda myfyrwyr a fydd yn symud i fyd gwaith yr un adeg â chi.  Wrth astudio Safonau Uwch cewch gymorth gan eich cymheiriaid yn ystod y broses ymgeisio i'r brifysgol a byddant yn gallu rhoi cyngor a rhannu'r profiadau a gawsant o ddiwrnodau agored neu ymchwil annibynnol.

Beth bynnag sy'n digwydd, mae'n bwysig cofio mai'r camau nesaf yn unig yw'r rhain ar daith hir i lwyddiant.  Ni fydd y blynyddoedd nesaf yn penderfynu sut rydych yn treulio gweddill eich bywyd, ond gallant gael dylanwad mawr ar sut y mae'n dechrau.  Byddwn yn eich annog i fwynhau eich gwyliau haf - bydd yn hoe haeddiannol - ond i gymryd amser hefyd i ymchwilio, holi ac archwilio'r dewisiadau gorau i chi.

Tags: