Skip to main content
Students

Canlyniadau Safon Uwch / UG Coleg Gŵyr Abertawe 2015

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd pasio gyffredinol o 98% yn arholiadau Safon Uwch – sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru – gyda 1548 o gofrestriadau arholiadau ar wahân.

Roedd 81% ohonynt yn raddau uwch A*-C ac roedd 57% ohonynt yn raddau A*-B, y ddwy ganran yn gynnydd ar ganlyniadau 2014.

Cyfradd pasio gyffredinol Safon UG oedd 90%, gyda 66% yn raddau A-C a 42% yn raddau A neu B, sef cynnydd eto ar ganlyniadau 2014.

Roedd cyfanswm o 3066 o gofrestriadau arholiadau ar wahân ar gyfer Safon UG.

Mae cyfraddau pasio cyffredinol y coleg ar gyfer 2015 yn uwch na chyfartaledd Cymru, yn enwedig yn y graddau uwch A*-C.

“Llongyfarchiadau unwaith eto i’n myfyrwyr sydd wedi gweithio mor eithriadol o galed i gael canlyniadau Safon Uwch fydd yn rhoi sylfaen dda iddyn nhw ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth,” dywedodd yr Is-bennaeth Kay Morgan. “Mae’r ffaith ein bod ni wedi rhagori ar ganlyniadau’r llynedd yn Safon Uwch a Safon UG yn brawf o’u talent a’u hymroddiad.

Dwi’n hynod o falch bod 209 o fyfyrwyr ar draws Safon UG a Safon Uwch wedi cael graddau A* ac A ym mhob un o’u pynciau.”

“Hoffwn i gydnabod ein staff hefyd, sydd wedi helpu’r myfyrwyr hyn drwy gydol y flwyddyn. Mae eu cyfraniad nhw i’r llwyddiant heddiw yn arwyddocaol iawn.”

Ymhlith y myfyrwyr oedd yn casglu eu canlyniadau roedd:

  • Emily Olsen, sy’n mynd i Brifysgol Warwig i astudio Mathemateg.
  • Ei gefell Thomas Olsen, sydd wedi cael ei dderbyn gan Conservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban i astudio Cyfansoddi Cerddoriaeth a Sacsoffon Jazz
  • George Burton, sydd wedi cael ei dderbyn gan Brifysgol Bryste i astudio’r Clasuron
  • Joshua Lee Thomas, sy’n mynd i Rydychen i astudio’r Gwyddorau Biolegol
  • Ruth Harvey, sydd wedi cael ei derbyn gan Brifysgol Caergrawnt i astudio’r Gwyddorau Naturiol

Lluniau: A Frame Photography