Skip to main content

Cewri diwydiant i gynorthwyo myfyrwyr gyda phrosiect peirianneg

Mae myfyrwyr Technoleg Ddigidol ar fin elwa ar y cysylltiadau parhaus y mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi’u creu â’r cewri gweithgynhyrchu Tongfang Global (THTF).

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae’r cwmni o Bort Talbot wedi cytuno i gynorthwyo myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi i ddylunio ac adeiladu’r cymhorthion gweithgynhyrchu Teledu Clyfar diweddaraf ar gyfer eu prosiect Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.

Mae THTF wedi rhoi caniatâd i’r myfyrwyr ddefnyddio eu safle gweithgynhyrchu, lle maen nhw’n cynnal profion maes o’u dyluniadau. Maen nhw hefyd wedi rhoi setiau teledu clyfar i’r myfyrwyr fel y gallan nhw brofi eu prototeipiau.

“Mae hwn yn gyfle bendigedig i’n myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer digwyddiad EESW ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Mawrth,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams. “Mae THTF wedi bod yn gynghreiriaid gwych i’r coleg – maen nhw wedi rhoi cymorth ymarferol ac adnoddau i’n myfyrwyr ac maen nhw wedi noddi Gwobr Myfyriwr Technoleg Ddigidol y Flwyddyn yn y blynyddoedd diwethaf. Dw i’n edrych ymlaen at weld ein perthynas waith yn mynd o nerth i nerth.”