Coleg yn apwyntio Cyfarwyddwr AD newydd


Diweddarwyd 04/10/2017

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol newydd sbon –  wyneb cyfarwydd iawn – oherwydd mae Sarah King, a ymunodd â’r Coleg ym mis Medi, wedi gweithio yng Ngholeg Abertawe o’r blaen fel Ymgynghorydd Cysylltiadau â Chyflogeion AD.

Mae Sarah, sy’n dod o Abertawe, wedi treulio’r 11 mlynedd diwethaf yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr lle reoedd hi’n gweithio fel Is-bennaeth AD a Llesiant.

Yn ystod ei swydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, daeth y Coleg yn 28ain ar restr 100 Sefydliad Gorau i Weithio Iddynt (Ddim er Elw) y Times, anrhydedd y mae Sarah yn arbennig o falch ohono oherwydd digwyddodd hynny o ganlyniad uniongyrchol i adborth staff.

“Digwyddodd hyn diolch i arolwg staff a ofynnodd i gyflogeion raddio’r  Coleg ar ffactorau megis iechyd a lles, arweinyddiaeth, tâl a manteision, a chafodd yr wybodaeth ei meincnodi yn erbyn sefydliadau tebyg eraill,” dywedodd Sarah. “Dwi bellach yn edrych ymlaen at ddod â’r ffocws hwnnw ar fentrau iechyd a lles i Goleg Gŵyr Abertawe, gan roi grŵp llywio at ei gilydd i symud syniadau yn eu blaen, gyda’r nod o gyflawni Safon Iechyd Gorfforaethol Efydd ac ymgorffori iechyd a lles yn ein bywydau dyddiol prysur.

“Mae’n bwysig iawn gwerthfawrogi a chydnabod staff ac felly dwi’n awyddus i gael eu syniadau ynghylch sut y gallwn ni symud ymlaen, boed hynny drwy gymryd rhan mewn sialensau ffitrwydd ar gyfer elusen, meithrin cysylltiadau agosach â sefydliadau allanol i drefnu profion sgrinio iechyd, pigiadau ffliw neu brofion llygaid ar y campws, rhannu ryseitiau iach neu gydweithio i ddatblygu ap y gallwn ni i gyd ei ddefnyddio.”

Mae Sarah wedi gweithio ym maes AD er 1999, gan ddechrau gyda gwaith cyflogres a gweinyddu yn Dewhirst Ladieswear cyn dechrau ei gyrfa ym maes rheoli. Gyda chymwysterau CIPD hyd at Lefel 7, mae gyrfa Sarah wedi mynd â hi i Heddlu Dyfed Powys, Walkers Crisps a Phrifysgol Abertawe cyn symud yn ôl i’r sector addysg bellach.

“Dwi wrth fy modd bod yn ôl – Abertawe yw fy nhref enedigol ac wnes i wirioneddol fwynhau gweithio yma,” dywedodd Sarah. “Mae fy nghydweithwyr newydd a’m hen gydweithwyr wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn. Dwi nawr yn edrych ymlaen at ddod i adnabod y staff a chydweithio i wella cyfleoedd iechyd a lles i bawb.”

Tags: