Coleg yn Penodi Artistiaid Preswyl


Diweddarwyd 26/02/2015

Dros y tri mis nesaf, bydd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cael cyfle i weithio ochr yn ochr â thri artist preswyl newydd eu penodi.

Mewn partneriaeth ag Oriel Mission, bydd y coleg yn croesawu’r artistiaid i gampws Llwyn y Bryn yn gynnar ym mis Mawrth.

Mae Gareth Southwell yn gweithio yn bennaf ar ddarluniau pen ac inc ac mae’n cynhyrchu cartwnau, gwawdluniau a darluniau ar gyfer papurau newyddion a chylchgronau. Mae hefyd yn derbyn comisiynau ar gyfer darlunio llyfrau a dylunio cloriau, dylunio labeli a logos ac mae wedi arbrofi gyda ffilm ac animeiddio. Mae hefyd wedi cael cryn lawer o lwyddiant masnachol gyda chleientiaid gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Hasbro a Llywodraeth Cymru.

Mae Jason Cartwright a Becky Williams (yr olaf yn gyn-fyfyriwr BTEC Celf a Dylunio yn y coleg) eisoes wedi cwblhau cyfnodau preswyl gyda sefydliadau fel Theatr Genedlaethol Cymru, Oriel Elysium a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe fel yr oedd ar y pryd. Maen nhw hefyd wedi cymryd rhan mewn sioeau ledled y DU, Ewrop ac mor bell â Cholorado, UDA.

Yn ogystal â datblygu eu gwaith eu hunain, bydd yr artistiaid preswyl yn arwain gweithdai yn Llwyn y Bryn ac yn cymryd rhan mewn digwyddiad Stiwdios Agored, gan orffen yn yr haf gydag anerchiad artist a phroffil terfynol yn Oriel Mission.

“Roedden ni’n edrych am artistiaid sydd â gallu creadigol rhagorol, profiad blaenorol o addysg yn y celfyddydau a’r gallu i arwain dosbarthiadau,” dywedodd y darlithydd Mike Murray. “Mae ansawdd y ceisiadau wedi gwneud argraff fawr arnon ni. Roedd y broses o lunio rhestr fer yn anodd.”

“Fodd bynnag, teimlon ni fod Gareth, Jason a Becky yn dri artist ysbrydoledig, blaengar a diddorol iawn fydd yn gweithio’n dda gyda’n myfyrwyr. Byddan nhw’n llysgenhadon gwych i’r coleg ac Oriel Mission – gall y ddau sefydliad fod o fudd i artistiaid newydd drwy rannu adnoddau ac arbenigedd.”

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa’r Loteri Genedlaethol.

www.jasonandbecky.co.uk
www.woodpig.co.uk