Skip to main content

Cydnabyddiaeth Frenhinol i ddisgyblion Glan-y-Môr

Cafodd disgyblion Ysgol Glan-y-Môr Charlie Hall, Lewis Ellar a Bradley Webb eu trin fel un o'r teulu brenhinol yr wythnos ddiwethaf pan gawson nhw wahoddiad i dderbyniad ym Mhalas Buckingham yng nghwmni Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog.

Daeth y gwahoddiad brenhinol yn dilyn eu llwyddiant yn y Gwobrau Cenedlaethol TeenTech lle enillon nhw'r Categori Cludiant gyda'u syniad arloesol ar gyfer system wedi'i chyfeirio gan synhwyrydd ar gyfer cadeiriau olwyn, syniad roedden nhw wedi'i ddatblygu gyda chymorth Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Technoleg Ddigidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, a'r myfyrwyr Corey Nixon, Declan Wells ac Adam Edwards.

Roedd yn ddiwrnod cyffrous iawn y bydd y bechgyn yn ei gofio am gryn amser, a phan ofynnwyd iddyn nhw beth oedd uchafbwyntiau'r diwrnod - yn ogystal â chwrdd ag Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog - roedden nhw hefyd wedi mwynau 'bisgedi a sgwash y Frenhines' a defnyddio 'tŷ bach y Frenhines!'.

Mae'r bechgyn yn dod yn gyfarwydd â chwrdd â phwysigion, gan gynnwys Edwina Hart, Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg - ac roedd eu gwaith wedi creu argraff fawr ar y ddwy ohonyn nhw.

Mae gwaith y disgyblion yn rhan o ymgyrch fawr yn Ysgol Glan-y-Môr i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a bydd y wobr ariannol a enillwyd yn cael ei defnyddio i helpu i brynu offer ar gyfer labordy STEM newydd yn yr ysgol.

“Bob blwyddyn rydym ni'n rhyfeddu at safon y rhai sy'n cystadlu ar gyfer y gwobrau a dyn ni heb gael ein siomi eleni," dywedodd sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TeenTech, Maggie Philbin. "Y gwobrau, yn ddi-ffael, yw'r diwrnod mwyaf arbennig yng nghalendr TeenTech ac yn gyfle gwych i fusnesau, academyddion a selebs i gael blas ar beth sy'n mynd ymlaen mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled y wlad.

"Dyn ni'n gwybod bod llawer iawn o ddawn ifanc ym mhob cwr o'r DU ond nid yw plant yn eu harddegau bob amser yn glir pa sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i lwyddo, ac mae digwyddiadau fel hyn wedi profi bod rhaid i'n system arholiadau gofleidio'r ddawn greadigol hon ac ysgogi hyd yn oed fwy o ddyfeisiau sy'n newid bywyd yn y dyfodol.

“Drwy fynd â'u syniadau y tu allan i'r ystafell ddosbarth a'u rhoi nhw wyneb yn wyneb â gweithwyr proffesiynol o fyd diwydiant, rydym ni wedi llwyddo i newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl am y pynciau hyn a'u helpu i agor eu llygaid i wir botensial eu syniadau.”

Roedd gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Efrog ychydig o eiriau i'w dweud hefyd: “Mae'n anhygoel beth rydych chi wedi'i gyflawni....mae'n bleser pur gweld sut mae TeenTech wedi datblygu. Peidiwch â bod ofn parhau i feddwl am syniadau."

Diolch i Ysgol Glan-y-Môr am y datganiad i'r wasg a'r llun..