Skip to main content

Cydweithrediad coleg / diwydiant yn arwain at gyfleoedd prentisiaeth

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu cydweithrediad cyffrous gyda’r arbenigwyr electroneg diwydiannol Kontroltek, sydd wedi'u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar ôl i’r ddau sefydliad weld cyfle posibl i symud myfyrwyr yn ddi-dor o amgylchedd y coleg i brentisiaethau llwyddiannus, ysgogol.

Mae Kontroltek yn arbenigo mewn atgyweirio a chyflenwi nwyddau electronig, trydanol a mecanyddol. Ar hyn o bryd mae ganddynt 40 o weithwyr, ond mae gan y cwmni uchelgais helaeth i dyfu eu gweithlu gan ddefnyddio'r 'genhedlaeth nesaf' o beirianwyr electronig.

Roedd y cwmni wedi cysylltu â Choleg Gŵyr Abertawe tua diwedd 2016; roedden nhw’n awyddus i gynnwys rhaglen brentisiaeth er mwyn sicrhau cynllun olyniaeth 'cynhenid’ o fewn y cwmni.

Wedyn, roedd Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Technoleg Ddigidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, wedi ymweld â Kontroltek a chwrdd â’r Cyfarwyddwr  Ariannol a Gweithrediadau Carl Waters. Gyda'i gilydd, cytunon nhw i ddatblygu rhaglen hyfforddi a fyddai'n rhoi cyfleoedd i brentisiaid talentog wneud cynnydd a ffynnu o fewn y cwmni.

Mae Kontroltek eisoes wedi canfod tri aelod o staff addawol a brwdfrydig iawn. Ar hyn o bryd maent yn ymgymryd â thasgau hanfodol megis logisteg a pharatoi gwaith atgyweirio bwrdd. Yn ogystal â hyn, maent hefyd yn mynychu coleg un diwrnod yr wythnos i gael hyfforddiant arbenigol ar gampws Tycoch. Trwy gymryd prentisiaid mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe, mae Kontroltek yn elwa ar bersbectif a syniadau newydd y myfyrwyr ac ar yr un pryd maent yn meithrin a datblygu sgiliau sy'n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy.

"Mae'r bartneriaeth hon yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn i'n myfyrwyr gan fod Kontroltek yn gwmni uchelgeisiol, sy’n tyfu drwy'r amser, ac maen nhw’n gobeithio cyflogi rhagor o brentisiaid," dywedodd Steve. "Maen nhw’n chwilio am bobl fedrus i chwilio am namau a dyna sut rydyn ni’n chwarae rhan. Rydyn ni’n hyfforddi pobl i chwilio am namau. Gallai ein graddedigion o 2017 ddilyn llwybr arwyddocaol iawn at gyflogaeth yma a bod yn digon ffodus i gael cyfleoedd gwaith os dyna beth maen nhw eisiau – dyw hynny ddim yn digwydd yn aml yn yr amgylchedd economaidd sydd ohoni."

Mae Carl Waters yn credu y gall y dull partneriaeth fod yn fuddiol dros ben, "fel cwmni sy'n tyfu, rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw hi i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Rydyn ni’n croesawu'r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe i'n galluogi i helpu i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer twf.