Skip to main content
VQ Day 2017

Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2017

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at gefnogi Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2017.

Ar hyn o bryd mae'r Coleg yn cynnig tua 40 o lwybrau galwedigaethol i ddysgwyr amser llawn, sy'n cynnwys cyrsiau mewn pynciau mor amrywiol ag arlwyo, technoleg ddigidol, harddwch, chwaraeon a theithio a thwristiaeth.

Un myfyriwr sy'n mwynhau ei daith yn y coleg yw Josh Neill sy'n astudio i ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

"Dwi wedi dwlu ar goginio erioed felly roedd hi'n hawdd gwneud y penderfyniad i ddilyn y cwrs 'ma," dywedodd Josh.  "Mae cymhwyster galwedigaethol wedi rhoi cyfle i mi gael profiad yn y 'byd go iawn'.  Mae'n gwrs ymarferol iawn, sydd yn union beth dwi'n hoffi, ac mae'n golygu bod allan o'r ystafell ddosbarth y rhan fwyaf o'r amser."

Yn wir, mae Josh yn treulio llawer o'i amser yn y coleg yn y gegin ar gampws Tycoch ac ym mwyty hyfforddi Vanilla Pod  ('trysor cudd' yn ôl WalesOnline), sydd ar agor i'r cyhoedd amser cinio a gyda'r hwyr trwy gydol yr wythnos ac yn gweini prydau bwyd blasus.

Rhywun sy'n ategu teimladau Josh yw Catherine Davies sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Therapi Harddwch. Fel Josh, mae Catherine yn cael cyfle i fireinio ei sgiliau mewn amgylchedd ymarferol sydd mor agos â phosibl i'r amgylchedd yn y gweithle - yn ei hachos hi, ystafelloedd triniaeth a salonau Canolfan Broadway.

"Mae fy nghwrs wedi rhoi cyfle i mi ennill sgiliau penodol iawn a fydd yn werthfawr yn fy ngyrfa," dywedodd Catherine.  "Dwi'n dwlu ar elfen ymarferol y cwrs a dwi'n mwynhau pob munud ohono fe."

Ond nid dim ond myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sy'n gwerthfawrogi eu cymwysterau galwedigaethol.  Mae nifer o aelodau staff hefyd yn dewis dilyn y llwybr galwedigaethol gan ddweud bod hynny wedi talu ar ei ganfed….

"Penderfynes i ddilyn y llwybr galwedigaethol yn hytrach na gwneud Safonau Uwch fel y gwnaeth llawer o'm cydweithwyr," dywedodd y darlithydd Chwaraeon a phennaeth Academi Pêl-droed y coleg, Richard South. “Erbyn hyn mae gen i swydd dwi'n mwynhau'n fawr iawn - dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r gwaith bob dydd - ac mae wedi rhoi cyfle i mi deithio'r byd.  Dwi wedi ennill sgiliau allweddol a rhinweddau y galla i eu trosglwyddo i'm myfyrwyr."

Mae'r Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Technoleg Ddigidol Steve Williams yn awyddus i bwysleisio'r cysylltiadau â diwydiant sydd gan nifer o'r meysydd galwedigaethol yn y coleg.

"Gall myfyrwyr sy'n dod atom ar raglen alwedigaethol gael eu hyfforddi yn ôl gofynion penodol y diwydiant perthnasol, a dyn ni wedi cael llwyddiant mawr o ran dilyniant o'r coleg i brentisiaethau a chyflogaeth o ganlyniad i hynny," dywedodd Steve.  "Mewn achosion lle mae myfyriwr yn dewis mynd ymlaen i'r brifysgol, mae eu cefndir galwedigaethol wedi rhoi'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol sy'n rhoi mantais fawr iddynt."

"Mae cyn fyfyrwyr sydd wedi dilyn y llwybr galwedigaethol trwy Goleg Gŵyr Abertawe wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn ym myd chwaraeon, ffasiwn, arlwyo a'r celfyddydau dramatig i enwi rhai yn unig," meddai'r Pennaeth Mark Jones.  "Rydym yn hapus iawn i barhau i gefnogi Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol ac edrychwn ymlaen at groesawu'r genhedlaeth nesaf o ddoniau galwedigaethol ym mis Medi."

Gall cymwysterau galwedigaethol helpu unigolion o bob oedran i gael mantais - boed hynny yn eu gyrfa nawr neu yn y dyfodol neu fel llwyfan ar gyfer addysg bellach ac uwch.  Mae Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol yn ceisio cydnabod a dathlu gwerth cyrhaeddiad galwedigaethol i'r unigolyn a'r gymuned ehangach oherwydd dim ond pobl sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sydd â'r sgiliau priodol all hybu economi'r DU.