Skip to main content
Welsh Language Music Day

Dydd Miwsig Cymru

Welsh Language Music Day

Mi oedd campws Gorseinon Coleg Gwyr Abertawe dan ei sang wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg cyfoes.  

Bu Menter Iaith Abertawe yn ymweld â’r coleg yn DJio rhestr o ganeuon Cymraeg gan fandiau megis Candelas, Sŵnami, Bryn Fôn a Band Pres Llareggub er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth  Gymraeg.

Cynhaliwyd cystadleuaeth i ennill dau docyn i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, Crughywel  - cwbl oedd angen i’n myfyrwyr wneud oedd gyrru neges ar Facebook neu Twitter @Cymraeg gan nodi eu hoff lyric o gan Gymraeg. 

“Mae’n wych cael diwrnod cyfoes fel hyn sy’n dathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg,” meddai Anna Davies ein Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, “mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr wrando a chael eu cyflwyno i gerddoriaeth na fyddent efallai wedi dod ar ei draws o’r blaen.  Profodd i fod yn ddiwrnod llwyddiannus, ac mi oedd yn bleser gweld myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn mwynhau gwrando a chael eu symud gan gerddoriaeth Gymraeg ei iaith.”