Llwyddiant i gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe


Diweddarwyd 12/07/2017

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu yn sgil cael canlyniadau ardderchog yn eu cyrsiau gradd ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd Kayleigh Jones a Lewys Aron yn graddio â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o’r Brifysgol yr haf hwn.  

Dilynodd Kayleigh gwrs Safon Uwch mewn Cymraeg ail iaith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn penderfynu astudio Cymraeg a Mathemateg yn y Brifysgol. Fel un o gefndir di-Gymraeg, mae Kayleigh yn ysbrydoliaeth i eraill sydd eisiau dysgu’r Gymraeg a dod yn rhugl yn yr iaith.  Enillodd ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio yn y Brifysgol.  Rai misoedd yn ôl, daeth Kayleigh yn ail yng ngwobr Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd.    

Yn wahanol i Kayleigh, mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg a wnaeth Lewys.  Eto i gyd, rai blynyddoedd yn ôl ni fyddai wedi dychmygu y byddai wedi mynd ymlaen i astudio gradd yn y Gymraeg.  Fel disgybl ysgol, nid oedd ganddo lawer o ddiddordeb yn y Gymraeg ac ychydig iawn o’r iaith a siaradai.   Ond ar ôl gadael yr ysgol a dechrau gweithio mewn ysbyty yn llawn amser, daeth i gysylltiad â llawer o gleifion a siaradai’r Gymraeg fel iaith gyntaf.  Dechreuodd Lewys sylweddoli pa mor bwysig oedd gallu sgwrsio â’r cleifion hyn yn eu mamiaith a theimlai gywilydd na allai gyfathrebu’n rhwydd â nhw.

Ar ôl dechrau sylweddoli gwerth yr iaith, penderfynodd Lewys gymryd y naid o adael swydd ddiogel i ddilyn ei freuddwyd newydd o fod yn athro Cymraeg.  Dychwelodd i’r byd addysg i ddilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Gŵyr, cyn cael ei dderbyn i astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Dr Rhian Jones, Darpar Bennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: “Mae Lewys a Kayleigh wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig oherwydd eu disgleirdeb academaidd ond am iddynt hefyd gyfrannu’n helaeth i fywyd Cymraeg y Brifysgol.  Gwnaeth Lewys waith pwysig dros y Gymraeg yn ystod ei gyfnod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr a bu Kayleigh yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Gobeithio y bydd eu llwyddiant nhw’n sbardun i eraill fynd ati i ddysgu’r iaith, ei defnyddio a’i dathlu.  Fel y profodd Lewys a Kayleigh, pa le gwell i astudio’r Gymraeg nag yn Abertawe, ble mae’r cyrsiau ar stepen y drws.” 

Datganiad i'r Wasg: diolch i Brifysgol Abertawe

Tags: