Myfyriwr ESOL yn Llysgennad Chwaraeon


Diweddarwyd 15/09/2017

Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dychwelyd o ymweliad pedwar diwrnod â Bwlgaria yn ddiweddar fel rhan o brosiect chwaraeon Erasmus+.

Digwyddodd y daith ar ôl i GolegauCymru gysylltu â thiwtoriaid ESOL y Coleg i weld a hoffai unrhyw rai o’u myfyrwyr wneud cais am rôl Llysgennad Datblygu Chwaraeon Ieuenctid (YSDA). 

Roedd Marta Skoczek, a astudiodd Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar gampws Llwyn y Bryn cyn symud ymlaen i gwrs Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Celf a Dylunio, wedi llwyddo yn ei chais a chafodd ei gwahodd i fynd i Fwlgaria – yng nghwmni’r darlithwyr ESOL Stephen Oliver a Jane John – lle cafodd hyfforddiant i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon.

Roedd dirprwyaeth y coleg, a gynhaliwyd gan staff a Llysgenhadon Datblygu Chwaraeon Ieuenctid o Gymdeithas Datblygu Chwaraeon Bwlgaria, yn cynnwys rhaglen lawn gan gynnwys gweithgareddau adeiladu tîm megis pêl-foli, golff a phêl-droed yn ogystal ag ymweliadau diwylliannol â Mount Vitosha a’r brifddinas Soffia.

“Roedd hyn yn brofiad gwych i Marta a gafodd gyfle i ymgysylltu a rhannu syniadau â llysgenhadon chwaraeon ledled Ewrop,” dywedodd Stephen. “O ganlyniad i hyn, mae hi wedi magu llawer iawn o hyder, ac mae hi bellach yn teimlo’n ddigon brwdfrydig i ddatblygu ei rhaglen gweithgareddau chwaraeon ei hun dros ddeg wythnos i bobl ifanc o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a bydd hyn yn digwydd ym mis Ionawr 2018. Mae Marta yn hynod falch o fod yn llysgennad chwaraeon dros Gymru.”

Mae’r prosiect YSDA yn cynnwys saith gwlad partner yr UE gan gynnwys Cymru a bydd yn creu 28 o Lysgenhadon Datblygu Chwaraeon Ieuenctid sef dros 4000 awr o weithgareddau i fwy na 500 o bobl ifanc ar draws Ewrop.

“Roedd yn wych gweld staff a myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau eu hymweliad â Bwlgaria,” dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect YSDA ColegauCymru. “Mae Marta wedi dangos brwdfrydedd dros hyfforddiant y prosiect a dwi’n edrych ymlaen at weld gweithgareddau ei phrosiect yn dod yn fyw y flwyddyn nesaf.”

DIWEDD

Tags: