Skip to main content
Students

Myfyrwyr gwyddoniaeth yn ennill Gwobr Aur CREST

Students

Mae dau grŵp o fyfyrwyr Gwyddoniaeth Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill y wobr lefel uchaf - Gwobr Aur CREST - gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain am eu gwaith gyda chwmnïau lleol.

Roedd un tîm o fyfyrwyr wedi gweithio gyda Morlyn Llanw Bae Abertawe a chael y dasg o gynnwys deunyddiau wedi'u hailgylchu mewn dyluniad bio-floc gan sicrhau yr un pryd eu bod nhw'n llwyddo i gytrefu bywyd morol..

Roedd y tîm arall wedi cydweithio â Dŵr Cymru ar y dasg o ddylunio ac adeiladu model o rig dosio cemegol gyda rheolaeth awtomatig gyflawn.

Roedd y ddau gwmni yn bles tu hwnt ag ymroddiad a gwaith caled y timau a fu'n gweithio ar y prosiectau, ac mae Morlyn Llanw Bae Abertawe yn parhau i ddefnyddio un o brototeipiau'r myfyrwyr fel rhan o'u gwaith ymchwil parhaus ar gytrefu morol.

Cyflwynodd y myfyrwyr eu prosiectau yng Ngwesty Celtic Manor fel rhan o Ffair Big Bang Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.  Daeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i ymweld â'r ffair a dangos diddordeb mawr yn eu gwaith.

"Rwy'n falch iawn o'r myfyrwyr hyn a beth maen nhw wedi'i gyflawni - fel mae fy nghydweithwyr Stewart McConnell ac Amy Herbert sydd wedi helpu'r myfyrwyr gyda'u prosiectau," dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm David Bawden.

Mae Gwobr Aur CREST yn dathlu llwyddiant, sgiliau a chyrhaeddiad personol mewn gwaith prosiect ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ac yn gyfle i'r myfyrwyr mwyaf galluog wneud gwaith ymchwil go iawn am 70+ awr ar brosiect hirdymor.