Cyrsiau rhan-amser

 

P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs rhan-amser i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Fel myfyriwr rhan-amser, bydd gennych fynediad llawn i’n staff profiadol sy’n gallu rhoi cyngor i chi ar gyrsiau, gyrfaoedd, cyflogadwyedd, materion personol neu faterion ariannol – ewch i’n tudalen cymorth i fyfyrwyr i wybod rhagor am ystod o ddarpariaeth megis, cymorth arbenigol os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cysylltu â’n swyddogion cymorth myfyrwyr; cymorth ariannol megis GDLlC neu React, defnyddio’ch sgiliau Cymraeg yn y Coleg.

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig lleoedd dysgu hyblyg ac anrywiaeth eang o adnoddau megis cyfrifiaduron personol, cyfleusterau argraffu a chopïo, Wi-Fi am ddim a staff gwybodus a chefnogol.

Ddim yn siŵr beth i’w wneud fel gyrfa? Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yw ein rhaglen cyflogadwyedd, sy’n gallu eich helpu i gael, cadw a symud ymlaen yn eich cyflogaeth. Yn ogystal gallwch ddarganfod pa gyrsiau a gyrfaoedd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau gyda’n Hyfforddwr Gyrfa.

Gwybodaeth bwysig
Sicrhewch eich bod yn darllen ein canllawiau ar sut i gofrestru / ymgeisio a ffioedd ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Cyrsiau rhan-amser i ddod

Awyddus i ddilyn uchelgeisiau newydd eleni? Archwilia ein cyrsiau rhan-amser sy’n dod.

Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 220 diwrnod nesaf

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim mewn meysydd fel adeiladu, digidol a pheirianneg.

Rhagor o wybodaeth

Welsh Gov