Skip to main content
Sketty Hall logo

Ysgol Fusnes Plas Sgeti 

Mae Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn gartref i amrywiaeth eang o ddarpariaeth addysg broffesiynol a gweithredol.  

Mae hyn yn cynnwys cyrsiau busnes a rheoli achrededig a phwrpasol h.y. cyfrifeg, arweinyddiaeth, digidol ac iechyd a diogelwch, cymwysterau AU, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd - a ddarperir ar gyfer busnesau gan arbenigwyr diwydiant Coleg Gŵyr Abertawe.

Un o nodau allweddol Ysgol Fusnes Plas Sgeti yw rhoi mynediad i’r cyfleusterau addysgu gorau sy’n gyfoethog mewn TG i’n cleientiaid masnachol niferus a’n myfyrwyr.  

Bydd yr Ysgol Fusnes hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr Safon Uwch a galwedigaethol (h.y. y rhai sy’n astudio pynciau megis peirianneg ac arlwyo).  

Ein bwriad yw, bob blwyddyn, y byddwn yn cynnal cyfres o gyflwyniadau, gweithdai a gweithgareddau i fyfyrwyr, yn seiliedig ar thema rheoli ganolog.

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth drwy gydol datblygiad y prosiect hwn - mae’r cyllid rydym wedi’i gael gan eu Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif wedi helpu i drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II yn lle dysgu ac addysgu modern. 

Cer am dro o amgylch Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Maenordy Rhestredig Gradd 2 prydferth a gafodd ei drawsnewid yn fan addysgu a dysgu modern gydag ardaloedd cymdeithasol, bar coffi a llyfrgell.

Cysylltu

Ysgol Fusnes Plas Sgeti 
Lôn Sgeti 
Abertawe 
SA2 8QF 
01792 284011

Oriau agor yn ystod y tymor

Llun - 9am tan 5pm
Mawrth - 9am tan 5pm
Mercher - 9am tan 9pm
Iau - 9am tan 5pm
Gwener - 9am tan 5pm