Skip to main content
Student Ambassadors

Myfyrwyr-lysgenhadon

Bob blwyddyn academaidd, rydym yn recriwtio Myfyrwyr-lysgenhadon i gefnogi gwaith y timau Cyswllt Ysgolion ac Ymestyn yn Ehangach.

Y nod yw bod yn gynhwysol a recriwtio myfyrwyr o amrywiaeth o ysgolion sydd â chefndiroedd amrywiol ac sy’n dilyn amrywiaeth eang o gyrsiau.

Bydd rhaid i’r Llysgenhadon fod yn batrymau ymddwyn rhagorol a bydd gofyn iddynt hyrwyddo a chynrychioli’r coleg mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Y rôl:

  • Cwrdd â myfyrwyr newydd a’u cyfarch
  • Mynychu nosweithiau agored y Coleg
  • Mynychu nosweithiau rhieni
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau ysgol
  • Helpu mewn diwrnodau/digwyddiadau blasu.

Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus:

  • Fod â’r gallu i gyfathrebu’n hawdd ac yn hyderus
  • Bod yn hyblyg ac yn ddibynadwy
  • Bod yn batrwm ymddwyn da
  • Bod yn gyfeillgar ac yn agos-atoch
  • Bod yn fodlon cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Manteision:

  • Dillad llysgenhadon
  • Treuliau e.e. teithio a bwyd
  • Gwobrwyon am fynychu digwyddiadau – e.e. talebau ar gyfer llyfrau, teithio ac offer
  • Bydd bod yn Llysgennad yn edrych yn dda ar geisiadau am swydd ac i’r brifysgol
  • Bydd yn eich helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm.

Sut i gymryd rhan:
Yn ystod tymor yr hydref, bydd y tîm Cyswllt Ysgolion yn ymweld â grwpiau tiwtor i roi gwybodaeth i’r myfyrwyr am y rhaglen ac i ddechrau’r broses o wneud cais.

Bydd rhaid i fyfyrwyr lenwi ffurflen gais a bydd y broses ddethol yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd. 

Bydd y Llysgenhadon llwyddiannus yn mynychu sesiwn hyfforddi cyn Nadolig yn barod i gefnogi digwyddiad blasu mawr cyntaf y Coleg.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r:
Cydlynydd Cyswllt Ysgolion, Sian Jones
sian.jones@gcs.ac.uk