Tocynnau Bws

Tocynnau bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Ar hyn o bryd, cynigir tocynnau bws â chymhorthdal i fyfyrwyr amser llawn. Byddwch yn cael cyfle i brynu tocyn bws wrth ichi gofrestru, neu gallwch gael gafael ar un wrth gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr y Coleg.

Gall fyfyrwyr sy’n gymwys i gael cyllid FCF wneud cais am docyn bws drwy eu cais FCF

Tycoch / Llwyn y Bryn / Llys Jiwbilî
Gall fyfyrwyr brynu tocyn bws First Cymru a fydd yn eu galluogi i gyrraedd a gadael unrhyw un o gampysau’r Coleg. Gellir defnyddio’r tocyn bws hefyd yn yr hwyr ac ar y penwythnos ar fysiau First Cymru.

Pris tocyn bws yw £335*, ac mi fydd yn ddilys o 1 Medi 2024 i 30 Mehefin 2025.

Cynllun rhandaliadau (ffi weinyddol £15)

  • Rhandaliad 1 - £150*
  • Rhandaliad 2 (yn ddyledus ar 4 Tachwedd 2024) - £100*, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 04/11/24
  • Rhandaliad 3 (yn ddyledus ar 6 Ionawr 2025) - £100*, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 06/01/25

Sylwch y bydd angen sieciau ôl-ddyddiedig neu fanylion cerdyn debyd/credyd arnoch er mwyn sefydlu’r cynllun rhandaliadau. Ni all ApplePay na GooglePay sefydlu cynlluniau rhandaliadau.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n mynychu Campws Tycoch ac nad ydynt yn cael eu gwasanaethu mwyach gan lwybrau First Cymru, gellir prynu tocyn bws NAT o’r Coleg. Rhaid i’r myfyrwyr ddarparu llun pasbort o’u hunain.

Efallai y bydd y cynlluniwr taith ar-lein First Cymru yn ddefnyddiol i chi drefnu’ch taith i’r (ac o’r) Coleg.

Gorseinon
Gall fyfyrwyr brynu tocyn bws Trafnidiaeth De Cymru a fydd yn eu galluogi i deithio ar ddechrau a diwedd diwrnod coleg drwy ddefnyddio Gwasanaeth Bws y Coleg.

Pris tocyn bws yw £335*, ac mi fydd yn ddilys o 1 Medi 2024 i 30 Mehefin 2025.

Cynllun rhandaliadau (ffi weinyddol £15)

  • Rhandaliad 1 - £150*
  • Rhandaliad 2 (yn ddyledus ar 4 Tachwedd 2024) - £100*, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 04/11/24
  • Rhandaliad 3 (yn ddyledus ar 6 Ionawr 2025) - £100*, gadewch fanylion cerdyn credyd/debyd gyda ni neu ddefnyddio siec ôl-ddyddiedig ar gyfer 06/01/25

Sylwch y bydd angen sieciau ôl-ddyddiedig neu fanylion cerdyn debyd/credyd arnoch er mwyn sefydlu’r cynllun rhandaliadau. Ni all ApplePay na GooglePay sefydlu cynlluniau rhandaliadau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyllid Myfyrwyr yng nghampws Tycoch 01792 284000 / Campws Gorseinon 01792 890700 

* Gallai'r pris newid.

Telerau ac Amodau derbyn tocyn bws – Campws Gorseinon

  • Cyhoeddir y tocyn bws yma gan SWT ac fe’i ariennir yn rhannol gan y Coleg  
  • Rhoddir ad-daliadau llawn dim ond i fyfyrwyr sy’n gadael eu cwrs ac sy’n dychwelyd eu tocynnau bws cyn 30 Medi.
  • Ni fydd unrhyw ad-daliad ar gael wedi’r dyddiad hwn am beidio â defnyddio’r tocyn bws neu os bydd y myfyriwr yn cael ei wahardd neu’n gadael y cwrs. Ni fydd ad-daliad ar gyfer ffïoedd gweinyddol os defnyddiwyd y cynllun talu mewn rhandaliadau.
  • Os bydd myfyriwr yn defnyddio cynllun rhandaliadau, mi fydd yn atebol i dalu cost lawn y tocyn bws.
  • Ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau pan fydd myfyriwr yn pasio ei brawf gyrru (bydd unrhyw symiau dyledus ar gynllun rhandaliadau yn gorfod cael eu talu).
  • Mi fydd tocynnau bws ar gyfer y flwyddyn academaidd yn cael eu dosbarthu ar sail bob blwyddyn.

Telerau ac Amodau derbyn tocyn bws  – Campws Tycoch

  • Cyhoeddir y tocyn bws gan First Cymru ac fe’i ariennir yn rhannol gan Goleg Gŵyr Abertawe. 
  • Rhoddir ad-daliadau dim ond i fyfyrwyr sy’n gadael eu cwrs ac sy’n dychwelyd eu tocynnau bws cyn 30 Medi.
  • Ni fydd unrhyw ad-daliad ar gael wedi’r dyddiad hwn am beidio â defnyddio’r tocyn bws neu os bydd y myfyriwr yn cael ei wahardd neu’n gadael y cwrs. Ni fydd ad-daliad ar gyfer ffïoedd gweinyddol os defnyddiwyd y cynllun talu mewn rhandaliadau.
  • Os bydd myfyriwr yn defnyddio cynllun rhandaliadau, mi fydd yn atebol i dalu cost lawn y tocyn bws.
  • Ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau pan fydd myfyriwr yn pasio ei brawf gyrru (bydd unrhyw symiau dyledus ar gynllun rhandaliadau yn gorfod cael eu talu).
  • Os yw tocynau bws yn cael eu dapraru’n ddi-dâl i fyfyrwyr (e.e. tocynnau a areinnir gan FCF/Ysgolion Fwydo), bydd y Coleg yn canslo’r tocyn blynyddol (a fydd yn annilys ar gyfer teithio) os yw’r myfyriwr wedi tynnu’n ôl o’r Coleg.
  • Mi fydd tocynnau bws ar gyfer y flwyddyn academaidd yn cael eu dosbarthu ar sail bob blwyddyn.