Teithio a Thwristiaeth

 

Mae’r cyrsiau hyn, a addysgir ar Gampws Tycoch, ar gael ar Lefelau 2 a 3 ac mae’r cymwysterau’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a darparwyr addysg uwch. 

Anogir myfyrwyr ar y cwrs Lefel 3 i ennill cymwysterau ychwanegol, gan gynnwys Criw Caban Awyr a Chynrychiolydd Cyrchfan, a byddant yn elwa ar ymweliad astudio preswyl.

Gall myfyrwyr berffeithio eu sgiliau mewn swyddfa deithio rithwir o’r enw ‘Dere i Deithio’ sy’n rhoi cyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. 

Mae efelychiad o gaban awyren, gyda’i resi o seddi i’r teithwyr a llefydd uwchben i gadw bagiau, hefyd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i’r myfyrwyr.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth

Dere i Deithio

Gall myfyrwyr berffeithio eu sgiliau mewn swyddfa deithio ‘rithwir’ yn y coleg. Mae 'Dere i Deithio’ yn chwarae rôl hanfodol yn natblygiad y myfyrwyr oherwydd mae’n rhoi cyfle iddynt ymarfer eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ac ehangu eu gwybodaeth drwy chwarae rôl yn fyw.

Travel Agency

Mae myfyrwyr teithio a thwristiaeth yn hedfan i’r entrychion diolch i efelychiad o gaban awyren. Bydd y caban, gyda’i resi o seddi i’r teithwyr a llefydd uwchben i gadw bagiau, yn cael ei ddefnyddio gan y myfyrwyr ar gyfer gweithgareddau efelychu a chwarae rôl. Gall myfyrwyr ryngweithio â’i gilydd o fewn amgylchedd gwaith go iawn.