Myfyrwyr yn mwynhau cynhadledd chwaraeon


Updated 15/03/2017

Bu criw o fyfyrwyr L3 Chwaraeon o gampws Gorseinon yn ymweld â chynhadledd ‘Dwyieithrwydd mewn Chwaraeon’ yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wythnos diwethaf.

Trefnwyd y diwrnod gan y coleg drwy nawdd gan ColegauCymru gyda’r nod o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym maes chwaraeon.  Cawsom sesiwn ddifyr gan y sylwebydd Huw Llywelyn Davies sylwebu’n ddwyieithog i’r BBC ar gemau rygbi, criced a phêl-droed, a chafwyd blas ar sut i sylwebu ar gemau byw.

Gosododd Owain Llŷr, newyddiadurwr chwaraeon gyda’r BBC, dasg i’r myfyrwyr greu bwletin newyddion 40 eiliad ar gêm hanesyddol Cymru v Gwlad Belg yn Ewros 2016.  Yna roed rhaid i’r myfyrwyr berfformio eu darn o flaen camera. 

Fe oedd Joshua Davies myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, wedi perfformio ei adroddiad yn Gymraeg, a dod a chlod i’r tîm gan ymddangos ar Newyddion 9 S4C y noson honno.  Mae’r rhaglen i’w gweld ar ClickView 

Roedd hefyd cyfle i ail-fyw siwrne anhygoel Cymru yn Ewros 2016 gyda sesiwn cwestiwn ac ateb ysbrydoledig gan Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu FAW, a oedd yn gyfrifol am hyrwyddo tîm Cymru yn ymgyrch Ewros 2016. 

Fe oedd yn sgwrs hynod ddifyr, wrth iddo  esbonio sut wnaeth balchder tim Cymru o gynrychioli eu gwlad ddatblygu wrth godi ymwybyddiaeth y chwaraewyr o ddigwyddiadau o bwys yn hanes Cymru - trychineb Aberfan, ymweld â bedd Hedd Wyn a dysgu’r anthem genedlaethol.  I gyd yn talu teyrnged i’r holl gefnogwyr a ddilynodd y tîm drwy’r holl daith.

Yn y prynhawn cafwyd sesiwn ‘Sut i hyfforddi’n ddwyieithog’, a sgiliau pêl-droed a rygbi’r myfyrwyr yn cael eu profi gan yr Urdd a Dan Gwyn Hughes.

Yn olaf cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb gan y cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr Jonathan Davies.  Yn ei sesiwn dywedodd wrth y myfyrwyr mae defnyddio’r iaith sydd ganddynt sy’n bwysig a pheidio poeni am gywirdeb.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i Goleg Caerdydd a’r Fro am y gwahoddiad i fynychu’r gynhadledd,” meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Coleg Gŵyr Abertawe.  “Mi oedd yn gyfle gwerth chweil i’n myfyrwyr gael dysgu beth yw rôl yr iaith Gymraeg ym myd chwaraeon, a darganfod bod ganddynt i gyd sgiliau i’w datblygu - eu defnyddio sy’n bwysig.  Hoffwn hefyd ddiolch i’r darlithwyr chwaraeon Wayne Price am drefnu’r myfyrwyr ac i Marc Jones am gadw trefn ar y diwrnod.  Y gobaith yw gallwn dyfu ar y brwdfrydedd a ddangoswyd gan y myfyrwyr tuag at y Gymraeg, drwy gyflwyno mwy o Gymraeg ym maes chwaraeon yn y coleg.”

Tags: