Cyrsiau Safon Uwch

 

Addysgir y cyrsiau hyn ar Gampws Gorseinon. Mae’r Coleg yn cynnig bron 40 o bynciau Safon Uwch, ac nid yw llawer ohonynt yn cael eu cynnig ar lefel TGAU. 

Ym mhob un o’r pynciau Safon Uwch, mae’r flwyddyn astudio gyntaf yn cael ei galw yn Safon UG (sydd fel arfer yn 40% o’r dyfarniad Safon Uwch llawn) a bydd arholiadau allanol fel arfer yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. 

Safon U2 yw’r ail flwyddyn astudio sydd fel arfer yn 60% o’r dyfarniad Safon Uwch llawn ac mae hefyd yn cynnwys arholiadau allanol. Gallech chi ddechrau pwnc UG newydd hefyd yn yr ail flwyddyn astudio.

Yn 2023, enillodd 82% o’n myfyrwyr y graddau oedd eu hangen arnyn nhw i fynd i’w prifysgol dewis cyntaf (cyfartaledd cenedlaethol y DU oedd 79%). Mae hyn yn cynnwys 152 o fyfyrwyr sydd wedi sicrhau lleoedd yn un o brifysgolion Russell Group. Gweld holl ganlyniadau Safon Uwch.

Addysgu llinol

Os dewiswch gymryd un o’r pynciau Safon Uwch hyn:
Cyfrifeg, Y Clasuron, Daeareg, Technoleg Cerdd, Dawns, Hanes yr Hen Fyd, Electroneg
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ddarpariaeth linol yn eich cyfweliad. Mae darpariaeth linol yn golygu efallai na fydd gennych yr opsiwn o sefyll arholiad UG ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf.

Cymorth tiwtorial

Byddwch yn cael tiwtor personol i helpu i fonitro’ch cynnydd academaidd. Gallwch fynychu sesiynau tiwtorial mewn grwpiau sy’n cynnwys siaradwyr  gwadd, gweithgareddau menter, cyfarwyddyd gyrfaoedd a chymorth i lenwi ceisiadau UCAS.

Ailsefyll arholiadau TGAU

Peidiwch â phryderu os na chawsoch y graddau ar gyfer Saesneg, Mathemateg,Gwyddoniaeth neu Gymraeg(Iaith Gyntaf), gallwch ailsefyll yr arholiadau hyn yn eich blwyddyn gyntaf.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth