Pynciau Safon Uwch a TGAU

 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig tua 40 o bynciau Safon Uwch, ac nid yw nifer ohonynt yn cael eu cynnig fel cymhwyster TGAU.

Ym mhob pwnc Safon Uwch, mae’r flwyddyn astudio gyntaf yn cael ei galw’n Safon UG ac fel arfer bydd asesu allanol yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Blwyddyn U2 yw’r ail flwyddyn astudio ac mae hefyd yn cynnwys arholiadau allanol i ennill y cymhwyster Safon Uwch llawn. 

Efallai y byddwch chi’n gallu dechrau pwnc UG newydd hefyd yn yr ail flwyddyn astudio.

Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau TGAU yn rhan-amser. Gall myfyrwyr ailsefyll TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth fel arfer ym mlwyddyn gyntaf eu cwrs.

Yn 2022, y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 99%. O’r graddau pasio hyn, roedd 42% yn raddau A*- A, 70% yn A*- B, ac 87% yn A*- C. Y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG oedd 94%.

Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg hefyd yn gryf eleni gyda 44% o fyfyrwyr Lefel 3 Diploma Estynedig yn cael o leiaf un radd Rhagoriaeth.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth