Skip to main content

Mynediad i Gelf a Dylunio

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Llwyn y Bryn
384 awr dros 32 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r rhaglen lefel 3 hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddilyn celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol. Yn draddodiadol mae’r rhaglen yn diddanu amrywiaeth o grwpiau oedran. Cewch eich annog i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau. Mae’r rhaglen yn cynnwys lluniadu, ffotograffiaeth, tecstilau, astudiaethau dylunio 2D/3D, ffotograffiaeth, a hanes celf, gan gynnwys unedau sy’n darparu ymwybyddiaeth gyffredinol, gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, dylunio a’i gyd-destunau.

Gwybodaeth allweddol

Bwriedir y cwrs i fyfyrwyr nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sy’n gallu arddangos brwdfrydedd dros, ac ymrwymiad i gelf a dylunio. Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w gyfweliad. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Er nad yw’n ofyniad mynediad, byddai graddau TGAU mewn mathemateg a Saesneg yn fanteisiol.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, 9.30am-4.30pm dros ddau ddiwrnod a bydd asesiadau parhaus. Gofynnir i chi gyflwyno gwaith i’w asesu ar ddiwedd pob uned astudio. Caiff pob uned ei graddio fel pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Mae’r gwaith yn destun gwiriad mewnol ac allanol.

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddarganfod y maes penodol o gelf rydych yn frwdfrydig drosto a bydd yn eich cefnogi yn eich cais UCAS ar gyfer astudio gradd.

Yn ystod y flwyddyn, trwy raglen bwrpasol, byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a phortffolio gweledol er mwyn mynychu eich cyfweliadau gradd. Bydd gennych fynediad i’n stiwdios celf a dylunio arbenigol ar gampws Llwyn y Bryn sy’n cynnwys stiwdio serameg ac odynau, ystafell argraffu, ystafell fywluniadu, cyfleusterau ystafell dywyll, stiwdio ffotograffiaeth, ystafelloedd tecstilau gyda byrddau torri patrymau a pheiriannau gwnïo, torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol, ystafelloedd digidol gyda thabledi lluniadu Wacom.