P’un ai ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe bydd gennym gwrs rhan-amser i chi.

Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.

Cyrsiau rhan-amser Cyrsiau amser llawn Addysg uwch Prentisiaethau

Diweddariad: cyrsiau rhan-amser

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer ein cyrsiau rhan-amser 2020/2021 bellach yn fyw.

Sut i gofrestru
Yn achos cyrsiau lle nad oes angen cyfweliad, cofrestrwch a thalwch ar-lein.

Yn achos cyrsiau lle mae angen cyfweliad, dewisiwch yr opsiwn gwneud cais am gyfweliad a byddwn yn eich ffonio yn ôl. Yn dilyn eich cyfweliad byddwn yn anfon dolen unigryw atoch er mwyn i chi gwblhau’r broses gofrestru a thalu.

Angen trefnu cynllun talu neu drefnu anfonebu? Mae nifer o sesiynau y gall myfyrwyr gadw lle arnynt ar gyfer hyn ar Gampws Tycoch. Cadwch le ar sesiwn ar ôl cael eich cadarnhad e-bost â dolen uniongyrchol. Peidiwch â dod os nad ydych wedi trefnu slot amser.

Oherwydd Covid-19 a'r canllawiau cysylltiedig, gall myfyrwyr ddisgwyl dull addysgu cyfunol eleni. Bydd hyn yn golygu efallai y bydd cyfuniad o ddulliau ystafell ddosbarth traddodiadol ac addysgu ar-lein.​

Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd eleni wrth i ni weithio i roi’r wedd derfynol ar ein darpariaeth ran-amser ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Cofiwch fod y Coleg hefyd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a chymorth gyrfa trwy ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

Cyrsiau rhan-amser i ddod

Os mai un o’ch uchelgeisiau chi yn 2020 yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar y cyrsiau rhan-amser sydd gennym yn dechrau’n fuan.

Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 90 diwrnod nesaf
24/09/2020
Agored Level E3 Introduction to Digital PhotographyEdit
£50

Tudalennau

 

Wythnos Addysg Oedolion 2020
Sesiynau blasu am ddim

 

Dysgwch ragor

 

Part Time

Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21

Darllenwch ein Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21 i bori trwy ein cyrsiau proffesiynol ac adloniannol rhan-amser.

Ewch i restr y cyrsiau i gael manylion am sut i wneud cais ac i gael gafael ar y dyddiadau cychwyn.

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim mewn meysydd fel adeiladu, digidol a pheirianneg.

Rhagor o wybodaeth

Welsh Gov

Cymorth i fyfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fynd iddo i gael gwybodaeth, cymorth a chyngor ar bopeth o yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae ein staff sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r myfyrwyr ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.

Cymorth dysgu

Rydym yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid os oes angen offer arbenigol arnoch.

 

Llyfrgelloedd

Mae amrywiaeth o adnoddau yn ein llyfrgelloedd a gall ein staff profiadol a chyfeillgar rhoi cymorth drwy’ch addysg.

Rhagor o wybodaeth.

Yr iaith Gymraeg

Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gydag iaith a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg. Rydym yn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio’u Cymraeg.

Rhagor o wybodaeth

ESOL

Os nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, mae gennym gyrsiau achrededig AM DDIM ar wahanol lefelau sy’n gallu helpu i wella’ch sgiliau siarad, ysgrifennu a gwrando Saesneg.

Gwybod rhagor am gyrsiau ESOL

Gwella’ch Sgiliau Sylfaenol

Basic Skills

Ydych chi’n cael trafferth yn helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref? Ydy eich diffyg sgiliau cyfrifiadurol yn eich dal yn ôl? Oes angen i chi wella’ch sgiliau sylfaenol er mwyn symud ymlaen yn y gweithle? Os felly, mae gennym yr ateb i chi.

Cofrestrwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM mewn sgiliau Saesneg a mathemateg a gallwn weithio o gwmpas eich anghenion. Gallwch weithio tuag at gymhwyster hyd yn oed ar gyrsiau City and Guilds Tystysgrif Sgiliau Hanfodol Cymru ac AGORED Cymru.

Cwestiynau am Gyllid

 

Wynebu colli eich swydd?

Mae ReAct II yn helpu pobl wedi’u heffeithio gan ddiswyddo i ennill sgiliau newydd ac mae’n annog cyflogwyr sy’n recriwtio i gyflogi gweithiwr di-waith.

Ydy incwm eich teulu yn llai na £18,370 y flwyddyn?

Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr 19+ oed (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol).

Ydych chi yn y Lluoedd Arfog?

Mae’r Cynllun Credydau Dysgu Estynedig (ELC) yn un o fentrau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith aelodau o’r Lluoedd Arfog.

Ydych chi’n gyflogwr sy’n ystyried uwchsgilio’ch staff?

Gallech fod yn gymwys i gael cymorth gan y fenter Sgiliau ar gyfer Diwydiant.