P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs addas i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.
Cyrsiau rhan-amser Cyrsiau amser llawn Addysg uwch Prentisiaethau
Sut i gofrestru
Mae cofrestru ar gael ar-lein ar gyfer mwyafrif y cyrsiau. Os ydych yn gweld y botwm www. yn yr wybodaeth am y cwrs, gallwch gofrestru a thalu'n ddiogel drwy ffurflen syml.
Os ydych yn gweld y botwm Gofyn am gyfweliad ffôn yn yr wybodaeth am y cwrs, byddwn ni'n anfon dolen ddiogel atoch i gofrestru a thalu'n ddiogel ar ôl eich cyfweliad."
Angen trefnu cynllun talu, trefnu anfonebau neu ddim yn gallu cofrestru ar-lein? Peidiwch â phoeni. Mae nifer o sesiynau y gellir eu bwcio ar gael i fyfyrwyr ar Gampws Tycoch. Cadwch le ar sesiwn talu ar ôl cael cadarnhad o'ch dolen unigryw ar e-bost. Peidiwch â dod os nad ydych wedi trefnu slot amser. Os na allwch gadw lle ar-lein, gallwch drefnu slot amser drwy ffonio 01792 284005 yn ystod oriau swyddfa arferol.
Ein cynlluniau talu yw 50% o’r ffi cwrs adeg cofrestru, wedi’i ddilyn gan ddau randaliad pellach. Mae rhandaliadau ar gael ar gyfer cyrsiau dros £100.
Cyfrifon Dysgu Personol – i gael rhagor o fanylion ewch i’r dudalen we hon ac e-bostiwch PLA@gcs.ac.uk i gael gwybodaeth.
Oherwydd Covid-19 a'r canllawiau cysylltiedig, gall myfyrwyr ddisgwyl dull addysgu cyfunol eleni. Bydd hyn yn golygu efallai y bydd cyfuniad o ddulliau ystafell ddosbarth traddodiadol ac addysgu ar-lein.
Cofiwch fod y Coleg hefyd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a chymorth gyrfa trwy ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Cyrsiau rhan-amser i ddod
If one of your ambitions for 2021 is to try something new, then take a look at the part time courses we have starting soon.
Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 90 diwrnod nesafTudalennau
Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21
Darllenwch ein Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21 i bori trwy ein cyrsiau proffesiynol ac adloniannol rhan-amser.
Ewch i restr y cyrsiau i gael manylion am sut i wneud cais ac i gael gafael ar y dyddiadau cychwyn.
Mi fyddwn yn gwerthfawrogi eich adborth ar ein Canllaw i Addysg Oedolion er mwyn i ni ddatblygu ar gyfer blwyddyn nesaf. Cwblhewch yr arolwg gloi os gwelwch yn dda.
Cyrsiau rhan-amser
Cyfrifon Dysgu Personol
Manteisiwch ar gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim mewn meysydd fel adeiladu, digidol a pheirianneg.
Cymorth i fyfyrwyr
Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fynd iddo i gael gwybodaeth, cymorth a chyngor ar bopeth o yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae ein staff sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r myfyrwyr ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.
Cymorth dysgu
Rydym yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid os oes angen offer arbenigol arnoch.
Llyfrgelloedd
Mae amrywiaeth o adnoddau yn ein llyfrgelloedd a gall ein staff profiadol a chyfeillgar rhoi cymorth drwy’ch addysg.
Yr iaith Gymraeg
Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gydag iaith a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg. Rydym yn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio’u Cymraeg.
ESOL
Os nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, mae gennym gyrsiau achrededig AM DDIM ar wahanol lefelau sy’n gallu helpu i wella’ch sgiliau siarad, ysgrifennu a gwrando Saesneg.
Gwella’ch Sgiliau Sylfaenol
Ydych chi’n cael trafferth yn helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref? Ydy eich diffyg sgiliau cyfrifiadurol yn eich dal yn ôl? Oes angen i chi wella’ch sgiliau sylfaenol er mwyn symud ymlaen yn y gweithle? Os felly, mae gennym yr ateb i chi.
Cofrestrwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM mewn sgiliau Saesneg a mathemateg a gallwn weithio o gwmpas eich anghenion. Gallwch weithio tuag at gymhwyster hyd yn oed ar gyrsiau City and Guilds Tystysgrif Sgiliau Hanfodol Cymru ac AGORED Cymru.