P’un ai ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe bydd gennym gwrs rhan-amser i chi.
Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.
Cyrsiau rhan-amser Cyrsiau amser llawn Addysg uwch Prentisiaethau
Sut i gofrestru
Bydd ein campysau’n cau ar ddydd Gwener 11 Rhagfyr i’r holl fyfyrwyr ac ymwelwyr. Gall myfyrwyr barhau i gofrestru ar-lein neu ofyn am gyfweliadau/gwybodaeth tan 12pm ar ddydd Gwener 18 Rhagfyr.
O ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr, bydd ceisiadau cofrestru a chyfweliad yn parhau i fod ar agor ar-lein, ond ni fyddwch yn clywed gennym tan ar ôl i ni ddychwelyd i’r campws ar ddydd Llun 4 Ionawr 2021.
Angen trefnu cynllun talu neu drefnu anfonebu? Mae nifer o sesiynau y gall myfyrwyr gadw lle arnynt ar gyfer hyn ar Gampws Tycoch. Cadwch le ar sesiwn ar ôl cael eich cadarnhad e-bost â dolen uniongyrchol. Peidiwch â dod os nad ydych wedi trefnu slot amser.
Os na allwch gadw lle ar-lein, gallwch drefnu slot amser drwy ffonio 01792 284005 yn ystod oriau swyddfa arferol (sylwch na fydd slotiau wyneb yn wyneb ar gael ar y campws rhwng 14 a 18 Rhagfyr).
Ein cynlluniau talu yw 50% o’r ffi cwrs adeg cofrestru, wedi’i ddilyn gan ddau randaliad pellach. Mae rhandaliadau ar gael ar gyfer cyrsiau dros £100.
Oherwydd Covid-19 a'r canllawiau cysylltiedig, gall myfyrwyr ddisgwyl dull addysgu cyfunol eleni. Bydd hyn yn golygu efallai y bydd cyfuniad o ddulliau ystafell ddosbarth traddodiadol ac addysgu ar-lein.
Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd eleni wrth i ni weithio i roi’r wedd derfynol ar ein darpariaeth ran-amser ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Cofiwch fod y Coleg hefyd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a chymorth gyrfa trwy ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Cyrsiau rhan-amser i ddod
Os mai un o’ch uchelgeisiau chi yn 2020 yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar y cyrsiau rhan-amser sydd gennym yn dechrau’n fuan.
Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 90 diwrnod nesafTudalennau
Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21
Darllenwch ein Canllaw i Addysg Oedolion 2020-21 i bori trwy ein cyrsiau proffesiynol ac adloniannol rhan-amser.
Ewch i restr y cyrsiau i gael manylion am sut i wneud cais ac i gael gafael ar y dyddiadau cychwyn.
Mi fyddwn yn gwerthfawrogi eich adborth ar ein Canllaw i Addysg Oedolion er mwyn i ni ddatblygu ar gyfer blwyddyn nesaf. Cwblhewch yr arolwg gloi os gwelwch yn dda.
Cyrsiau rhan-amser
Cyfrifon Dysgu Personol
Manteisiwch ar gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim mewn meysydd fel adeiladu, digidol a pheirianneg.
Cymorth i fyfyrwyr
Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fynd iddo i gael gwybodaeth, cymorth a chyngor ar bopeth o yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae ein staff sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r myfyrwyr ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.
Cymorth dysgu
Rydym yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid os oes angen offer arbenigol arnoch.
Llyfrgelloedd
Mae amrywiaeth o adnoddau yn ein llyfrgelloedd a gall ein staff profiadol a chyfeillgar rhoi cymorth drwy’ch addysg.
Yr iaith Gymraeg
Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gydag iaith a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg. Rydym yn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio’u Cymraeg.
ESOL
Os nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, mae gennym gyrsiau achrededig AM DDIM ar wahanol lefelau sy’n gallu helpu i wella’ch sgiliau siarad, ysgrifennu a gwrando Saesneg.
Gwella’ch Sgiliau Sylfaenol
Ydych chi’n cael trafferth yn helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref? Ydy eich diffyg sgiliau cyfrifiadurol yn eich dal yn ôl? Oes angen i chi wella’ch sgiliau sylfaenol er mwyn symud ymlaen yn y gweithle? Os felly, mae gennym yr ateb i chi.
Cofrestrwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM mewn sgiliau Saesneg a mathemateg a gallwn weithio o gwmpas eich anghenion. Gallwch weithio tuag at gymhwyster hyd yn oed ar gyrsiau City and Guilds Tystysgrif Sgiliau Hanfodol Cymru ac AGORED Cymru.