Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cymhwyster Cymorth Cymwysiadau Digidol Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i ymgeiswyr ymgymryd â rôl ‘arbenigwr pwnc’ ar gyfer sgiliau defnyddiwr TG yn eu gweithle.
Mae cynnwys y cymhwyster yn amrywiol ac mae’n cynnwys prosesu data strwythurol, cymorth technegol, a defnyddio cymwysiadau gwe/amlgyfryngau. Bydd ymgeiswyr yn dysgu sut i ddatrys problemau gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cymwysiadau sy’n briodol i’r cyd-destun busnes maen nhw’n gweithio ynddo.
Ychwanegwyd Ebrill 2019
Gofynion Mynediad
Bwriedir y cymhwyster i’r rhai sy’n:
- Gweithio mewn sefydliadau ar draws pob sector diwydiant, yn gweithredu fel yr ‘arbenigwr’ mewn Meddalwedd Cymwysiadau, yn dyfeisio atebion ac yn darparu cymorth TG i gydweithwyr
- Gweithio ar ddesgiau cymorth TG gyda chyfrifoldeb penodol am Gymorth Cymwysiadau defnyddwyr
- Gweithio mewn busnesau llai o faint heb swyddogaeth TG ar y safle, sy’n arddel cyfrifoldeb am sefydlu systemau, defnyddwyr a datrys problemau o ddydd i ddydd
- Cyfrifol am weithio gyda darparwyr gwasanaethau TG trydydd parti
Dull Addysgu’r Cwrs
Unedau Gorfodol:
- Diogelwch Systemau TG a Thelathrebu
- Amgylcheddau Rhwydwaith Digidol
- Rheoli Offer ar gyfer Cydweithredu Ar-lein mewn Busnes
- Cyfathrebu Digidol
- Rheoli Gwybodaeth Ddigidol
- Rheoli Prosiect Cymwysiadau TG
- Unedau Dewisol:
- Meddalwedd Arbenigol
- Meddalwedd Pwrpasol
- Datblygu Effeithiolrwydd Personol a Thîm gan ddefnyddio TG
- Dylunio a Datblygu Ateb Cynnwys Digidol
- Gwella Effeithiolrwydd Darpariaeth Cynnwys Digidol
- Dewis a Sefydlu Systemau Digidol
- Defnyddio Offer ar gyfer Cydweithredu Ar-lein mewn Busnes
- Gwella Meddalwedd Presennol
- Dylunio Meddalwedd
- Darparu Help a Chymorth Cymwysiadau Digidol
- Cymwysiadau Cronfa Ddata
- Iechyd a Diogelwch mewn Cyd-destun TG
Bydd y dysgwr yn cael tiwtor/aseswr pwrpasol a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn fwyaf addas ar gyfer eu rôl unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol. Bydd y Tiwtor/Aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos yn ei weithle i asesu cynnydd a hefyd i osod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf. Bydd y dysgwr yn cael gwaith prosiect sy’n benodol i’r unedau a ddewiswyd, a bydd disgwyl iddo gasglu tystiolaeth o’i rôl o ddydd i ddydd i ddangos ei fod yn cymhwyso ei sgiliau newydd. Efallai y bydd disgwyl i’r dysgwyr fynychu seminarau/gweithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar elfen wybodaeth y cymhwyster a helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n ennill yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddant wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith prosiect a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd 1-i-1 rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Assessor sef offeryn rheoli Prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 hwn, bydd y dysgwr yn cael y dewis i symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch yn y maes perthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau’r diploma Lefel 3 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol, bydd y dysgwr yn cael y dewis i ennill tystysgrif broffesiynol a gydnabyddir gan Microsoft.
Addysgir y cymhwyster gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad eithriadol o gymhwyso methodoleg Cymwysiadau Digidol yn ymarferol ac o ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bob dysgwr unigol.
Ariennir y cwrs hwn yn llawn (i ymgeiswyr cymwys). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk