Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddeg Data yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn weithiwr proffesiynol ym maes Dadansoddeg Data. Bydd yn cyfrannu at ddyfodol y sector a darparu’r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr Data, Gweinyddwyr Data, Rheolwyr Data, Dadansoddwyr Data a Gwyddonwyr Data.
Bwriedir y Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddeg Data ar gyfer dysgwyr sy’n gymwysedig hyd at Lefel 3 neu uwch neu sydd â phrofiad priodol yn y maes pwnc hwn.
Ychwanegwyd Ebrill 2019
Gofynion Mynediad
Bwriedir y Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddeg Data ar gyfer dysgwyr sy’n gymwysedig hyd at Lefel 3 neu uwch neu sydd â phrofiad priodol yn y maes pwnc hwn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y Diploma hwn a’r fframwaith prentisiaeth cysylltiedig yn fuddiol i ddysgwyr sydd am ddatblygu sgiliau a symud ymlaen i yrfa mewn meysydd megis:
- Gwybodaeth Busnes
- Warysau Data
- ETLl (Echdynnu, Trawsnewid a Llwytho)
- Dadansoddi Data
- Cloddio Data
- Rheoli Cronfa Ddata
- Unedau Gorfodol:
- Datblygu’ch Effeithiolrwydd a’ch Proffesiynoldeb eich hun
- Egwyddorion Seilwaith Rheoli Data
- Offer Dadansoddi Data
- Dadansoddi Data: Gwyddor Data - Unedau Dewisol:
- Seilwaith Rheoli Data
- Dadansoddi Setiau Data’n Ystadegol
- Profi Systemau TG a Thelathrebu
- Profi Diogelwch Systemau Gwybodaeth
- Egwyddorion Llywodraethu a Sicrhau Gwybodaeth
- Cynrychioli a Thrin Data Uwch ar gyfer TG
- Dylunio a Datblygu Rhaglenni Cyfrifiadurol a Yrrir gan Ddigwyddiad
- Dylunio a Datblygu Rhaglenni Cyfrifiadurol sy’n Canolbwyntio ar Wrthrychau
- Dylunio a Datblygu Rhaglenni Cyfrifiadurol Gweithdrefnol
- Diffinio ac Ymchwilio i Ofynion Cwsmeriaid ar gyfer Systemau TGCh
Bydd y dysgwr yn cael tiwtor/aseswr pwrpasol a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn fwyaf addas ar gyfer eu rôl unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol.
Bydd y Tiwtor/Aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos yn ei weithle i asesu cynnydd a hefyd i osod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf. Bydd y dysgwr yn cael gwaith prosiect sy’n benodol i’r unedau a ddewiswyd, a bydd disgwyl iddo gasglu tystiolaeth o’i rôl o ddydd i ddydd i ddangos ei fod yn cymhwyso ei sgiliau newydd. Efallai y bydd disgwyl i’r dysgwyr fynychu seminarau/gweithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar elfen wybodaeth y cymhwyster a helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n ennill yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddant wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith prosiect a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd 1-i-1 rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Assessor sef offeryn rheoli Prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 4 hwn, bydd y dysgwr yn cael y dewis i symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch yn y maes perthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau’r diploma Lefel 4 mewn Dadansoddeg Data, bydd y dysgwr yn cael y dewis i ennill tystysgrif broffesiynol a gydnabyddir gan Microsoft.
Addysgir y cymhwyster gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad eithriadol o gymhwyso methodoleg Dadansoddeg Data yn ymarferol ac o ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bob dysgwr unigol.
Ariennir y cwrs hwn yn llawn (i ymgeiswyr cymwys). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk