Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cymhwyster Gweithwyr Proffesiynol Diogelwch Gwybodaeth yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gallu sydd eu hangen ar ymgeiswyr i weithio fel gweithwyr proffesiynol diogelwch gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o weithleoedd. Mae Diogelwch Gwybodaeth bellach yn un o’r pryderon pwysicaf i sefydliadau o bob maint a sector. Mae’r cymwysterau hyn yn rhoi modd i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol medrus yng Nghymru ac uwchsgilio unigolion sy’n gweithio ym maes TG ar hyn o bryd ac yn gyfrifol am ddiogelwch gwybodaeth.
Ychwanegwyd Ebrill 2019
Gofynion Mynediad
Bwriedir y cymhwystwer ar gyfer y rhai sy’n:
- Gyfrifol am gynllunio, gweithredu, uwchraddio a monitro mesurau diogelwch ar gyfer amddiffyn rhwydweithiau a gwybodaeth gyfrifiadurol
- Cyfrifol am amddiffyn gwybodaeth rhag mynediad a chyfaddawdu heb awdurdod, gan sicrhau ei bod yn cael ei chadw’n ddiogel a’i bod yn cael ei datgelu neu ei rhannu yn unol â safonau a deddfwriaeth berthnasol yn unig
- Cyfrifol am greu meddalwedd ddiogel, gan weithredu technegau rhaglennu diogel
- Cyfrifol am werthuso diogelwch cyfrifiaduron a rhwydweithiau trwy efelychu ymosodiadau ar system gyfrifiadurol neu rwydwaith rhag bygythiadau allanol a mewnol
Dull Addysgu’r Cwrs
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 hwn, bydd y dysgwr yn cael y dewis i symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch yn y maes perthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau’r diploma Lefel 3 mewn Diogelwch Gwybodaeth, bydd y dysgwr yn cael y dewis i ennill tystysgrif broffesiynol a gydnabyddir gan Microsoft.
Addysgir y cymhwyster gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad eithriadol o gymhwyso methodoleg Diogelwch Gwybodaeth yn ymarferol ac o ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bob dysgwr unigol.
Ariennir y cwrs hwn yn llawn (i ymgeiswyr cymwys). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk