Trosolwg o’r Cwrs
Bwriedir y Diploma Lefel 3 mewn Dylunio Dysgu Digidol ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am ddysgu a datblygu yn eu sector ac sydd am wella eu defnydd o dechnolegau digidol i wella profiad y dysgwr. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster bydd gan y dysgwr nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer dilyniant i rolau uwch ym maes dysgu digidol.
Ychwanegwyd Ebrill 2019
Gofynion Mynediad
Bwriedir y cymhwyster ar gyfer amrywiaeth o ddysgwyr gan gynnwys:
- Unigolion sy’n gweithio ym myd addysg/dysgu ac sydd â diddordeb mewn integreiddio technoleg ddigidol i’r amgylchedd dysgu
- Unigolion sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes dylunio dysgu digidol ac sydd am wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad
- Unigolion sy’n gyflogedig mewn rôl anacademaidd a hoffai symud i’r sector hwn
- Unigolion sy’n gweithio fel athrawon/darlithwyr ac sydd am ddilyn hyfforddiant yn y maes hwn fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Dull Addysgu’r Cwrs
Unedau Gorfodol:
- Cyflwyniad i’r Amgylchedd Dysgu Digidol
- Datblygiad Proffesiynol a Phersonol
- Gweithio mewn Cylch Oes Dysgu Digidol
- Cyfathrebu Effeithiol ar gyfer Dylunio Dysgu Digidol
- Dylunio Profiad y Defnyddiwr
- Ansawdd a Safonau
- Dadansoddi ac Ymchwilio i Ofynion ar gyfer Dyluniadau Dysgu Digidol
Unedau Dewisol:
- Technolegau a Chanlyniadau Cydweithredol
- Meddalwedd Digidol Datblygol
- Cyflwyno Technolegau Ymgolli
- Cyngor a Chyfarwyddyd Technegol
- Defnyddio Technolegau’r Cyfryngau Cymdeithasol
- Datblygu Sgiliau, Dealltwriaeth a Hyder Pobl Eraill mewn E-ddysgu
- Cynhyrchy Clyweledol
- Cydgyfeirio Technolegau Digidol
- Dylunio a Delweddau Graffig
- Cyflwyniad i Gynhyrchu Gwefan
- Technolegau TG Symudol
- Byrddau Darlunio
Bydd y dysgwr yn cael tiwtor/aseswr pwrpasol a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn fwyaf addas ar gyfer eu rôl unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol. Bydd y Tiwtor/Aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos yn ei weithle i asesu cynnydd a hefyd i osod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf. Bydd y dysgwr yn cael gwaith prosiect sy’n benodol i’r unedau a ddewiswyd, a bydd disgwyl iddo gasglu tystiolaeth o’i rôl o ddydd i ddydd i ddangos ei fod yn cymhwyso ei sgiliau newydd. Efallai y bydd disgwyl i’r dysgwyr fynychu seminarau/gweithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar elfen wybodaeth y cymhwyster a helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n ennill yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddant wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith prosiect a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd 1-i-1 rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Assessor sef offeryn rheoli Prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 hwn, bydd y dysgwr yn cael y dewis i symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch yn y maes perthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau’r diploma Lefel 3 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol, bydd y dysgwr yn cael y dewis i ennill tystysgrif broffesiynol a gydnabyddir gan Microsoft.
Addysgir y cymhwyster gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad eithriadol o gymhwyso methodoleg Cymwysiadau Digidol yn ymarferol ac o ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bob dysgwr unigol.
Ariennir y cwrs hwn yn llawn (i ymgeiswyr cymwys). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk