Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs tair blynedd hwn yn datblygu'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o beintio ac addurno.
Byddwch yn cwblhau chwe uned craidd yr Amgylchedd Adeiledig ynghyd a modiwlau sy'n benodol i'r grefft.
Mae'r unedau craidd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i'r amgylchedd adeiledig
- Cyflwyniad i'r crefftau yn y sector adeiladu
- Cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig
- Cyflogadwyedd
- Iechyd a diogelwch
- Technoleg ddatblygol.
Y modiwlau sy'n benodol i'r grefft yw:
- Atgyweirio arwynebau
- Rhoi cot ar arwynebau
- Hongian gorchuddion wal
- Creu ac ychwanegu lliw.
Gofynion Mynediad
Un neu fwy o’r canlyniadau canlynol:
- Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Peintio ac Addurno
- Graddau A*-D ar lefel TGAU mewn Mathamateg a Saesneg
- Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Galwedigaethol mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Lefel 1 neu uwch.
- Teilyngdod, Lefel 2 CBAC, Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Amgylchedd Adeiledig
- TAG Safon Uwch/UG CBAC mewn Amgylchedd Adeiledig
- Teilyngdod, BTEC Peasron Lefel 1 neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
Cyfleoedd Dilyniant
Cyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Jubilee Court
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No