Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – Craidd ac Ymarfer Lefel 3 - Prentisiaeth
Arolwg
Nod ein rhaglen prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ddarparu gofal cyfannol, meithrin dysgu seiliedig ar chwarae, a chefnogi datblygiad iach plant. P’un ai ydych yn awyddus i fod yn weithiwr proffesiynol gofal plant, addysgwr, neu riant, mae’r cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth werthfawr am greu amgylcheddau sy’n hyrwyddo lles a thwf plant.
Amcanion
Bydd myfyrwyr yn deall:
- Datblygiad plant
- Dulliau cyfannol
- Dysgu seiliedig ar chwarae
- Cwricwlwm Cymru.
Canlyniadau
Mae’r llwybr hwn yn cyfuno cymhwyster craidd Lefel 2 â chymhwyster ymarfer Lefel 3, gan roi cyfle i ddysgwyr fod yn ymarferwyr cymwysedig Lefel 3 dros 18 mis. Mae’r cwrs prentisiaeth yn addas ar gyfer y rhai sy’n dilyn gyrfa mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant megis gofal dydd, Dechrau’n Deg neu ysgolion.
Gwybodaeth allweddol
Bydd angen i brentisiaid sicrhau lleoliad ysgol a rhaid bod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos mewn ysgol addas gyda phlant o ysgol oedran gorfodol.
Os nad oes gennych radd A-C ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith, bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol fel rhan o’ch fframwaith prentisiaeth.
Bydd yn ofynnol i chi fynd i gyfweliad ar Gampws Tycoch gyda’r tîm gofal plant, ac fel rhan o’r broses honno, byddwch yn cael prawf sgrinio llythrennedd.
Mae dwy elfen i’r cwrs: CBAC Lefel 2 Craidd a Lefel 3 Ymarfer. Bydd hyn yn cael ei astudio dros 18 mis. Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch am un prynhawn yr wythnos. Cewch eich addysgu gan ddarlithydd profiadol a bydd gennych fynediad i amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein ar gyfer astudiaethau pellach yn eich amser eich hun.
Er mwyn cyflawni’ch cymhwyster craidd, byddwn yn eich paratoi i basio un asesiad dewis lluosog.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster ymarfer, cewch eich cefnogi i gwblhau portffolio lleoliad, ac felly byddwch yn arsylwi ac yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer plant 0-7 oed.
Yn yr holl asesiadau dyfernir gradd ‘pasio’ neu ‘fethu’.
Os byddwch yn pasio’r cwrs hwn, gallech symud ymlaen i’r canlynol:
- Addysg Bellach: Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu Gradd Sylfaen Ymarfer Datblygiad Plentyndod
- Cyflogaeth mewn meithrinfa ddydd neu leoliad Dechrau’n Deg fel ymarferydd gofal plant dan oruchwyliaeth
- Cyflogaeth fel cynorthwyydd addysgu.
Bydd yn ofynnol i chi gael gwiriad DBS am gost ychwanegol.
Bydd myfyrwyr yn cael aseswr a fydd yn eich cefnogi drwy gydol y cwrs. Cewch fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau cymorth yn y Coleg i gynorthwyo’ch profiad dysgu.