Skip to main content

Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau Level 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth
Lefel 2
SEG
Llwyn y Bryn
One year
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bwriedir y cymhwyster hwn i’r rhai sy’n gweithio, neu eisiau gweithio, yn y diwydiant ffasiwn a thecstilau. Mae’n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth benodol am ddiwydiant seiliedig ar waith yn Lefel 2, i gefnogi dilyniant i lefelau dysgu uwch, i wella’ch perfformiad yn y gwaith neu i gynyddu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn addas i chi os ydych yn weithiwr hŷn, lled-brofiadol. Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn sicrhau cydnabyddiaeth o’ch gwybodaeth ddiwydiannol ar Lefel 2. Fel gweithiwr presennol, gall eich cyflogwr hefyd ddefnyddio’r cymhwyster i’ch uwchsgilio a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau sgiliau a allai fod ganddo yn eu busnesau, gan sicrhau bod prosesau ac arferion technolegol yn gyfoes a bod eu sylfaen sgiliau yn parhau i fod o safon fyd-eang.

Gellir teilwra modelau addysgu i weddu i’ch cyflogwr. Mae rhai prentisiaid yn cwblhau eu cymhwyster yn fewnol yn eu gweithle gydag ymweliadau gan staff y Coleg. Mae modelau addysgu eraill yn cynnwys mynychu’r Coleg bob pythefnos drwy gydol y rhaglen (dau ddiwrnod y mis) gydag asesiadau parhaus yn y gweithle.

Coleg Gŵyr Abertawe yw unig ddarparwr y cwrs hwn ledled Cymru, a nhw yw unig bartner addysg UKFT yng Nghymru, y corff sgiliau sector ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau.

Diweddarwyd Tachwedd 2022

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen cymhwyster ffurfiol arnoch i gael mynediad i Brentisiaeth Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau (L2). Fodd bynnag, er mwyn elwa’n llawn ar y cymhwyster hwn ar Lefel 2, efallai y byddai’n syniad da bod gennych rywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth flaenorol o ffasiwn a thecstilau.

Mae cyflogaeth mewn lleoliad gweithgynhyrchu gwnïo perthnasol hefyd yn ddymunol.

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynhyrchu Dillad ac Esgidiau Lledr neu Decstiliau (Cynhyrchion wedi'u gwnïo)

Dyluniwyd y cymhwyster hwn ar y cyd â Creative Skillset, yn dilyn ymchwil i ofynion sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhoi sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy i ddysgwyr, yn eu cael nhw i ymgyfarwyddo ag arferion cyfredol y diwydiant, ac yn eu paratoi i symud ymlaen i gymwysterau pellach neu gyfleoedd cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster hwn gyda dealltwriaeth bendant o’r canlynol:

  • Hanes y diwydiant dillad, esgidiau, lledr neu decstilau
  • Gofynion iechyd a diogelwch, gan gynnwys gofynion cyfreithiol cyflogwyr a gweithwyr
  • Sut i ddatblygu cysylltiadau da yn yr amgylchedd gwaith
  • Safonau ansawdd
  • Gweithrediadau Gwnïo a Gwneud
  • Y Broses Gynhyrchu
  • Defnyddiau a Ddefnyddir wrth Wneud Cynhyrchion wedi’u Gwnïo
  • Mae Sgiliau Hanfodol mewn Llythennedd Digidol, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd yn cael eu hastudio fel rhan o’r fframwaith.

Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Wedi'u Gwnïo (NVQ)

Datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd â Creative Skillset, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer dillad, esgidiau, tecstilau a busnesau cysylltiedig. Mae’n gymhwyster seiliedig ar waith sy’n datblygu sgiliau proffesiynol arbenigol a throsglwyddadwy, yn cael dysgwyr i ymgysylltu ag arferion cyfredol y diwydiant, ac yn eu paratoi i symud ymlaen i gymwysterau pellach neu gyfleoedd cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster hwn gyda dealltwriaeth bendant o’r canlynol:

  • Iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • Sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar yn rheolaidd, gan gynnwys cydnabod problemau posibl a chadw’r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • Mae Sgiliau Hanfodol hefyd yn rhan o’r cymhwyster os nad oes gennych gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg neu’r cyfwerth.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn symud ymlaen i gyflogaeth lawn neu i weithgareddau mwy medrus yn y diwydiant a ddewiswyd. Gallant hefyd symud ymlaen i gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 perthnasol eraill gan gynnwys rhaglen Brentisiaeth.

E-bostiwch elinor.franklin@gcs.ac.uk i wybod rhagor.