Y Celfyddydau Creadigol a Gweledol
Y Celfyddydau Creadigol ar Gampws Gorseinon
Rydym yn cynnig cyrsiau celf greadigol sefydledig ar lefel Safon Uwch mewn Dylunio Tecstilau, Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Graffig a Ffotograffiaeth. Bwriedir y cyrsiau celf sylfaenol hyn i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa ar lefel broffesiynol. Cânt eu haddysgu yn ein canolfan bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio. Mae’r amgylchedd ysbrydoledig hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu creadigrwydd unigryw eu hunain mewn meysydd astudio arbenigol.
Addysgir y cyrsiau trwy ddarlithoedd, gweithdai ysgogol dan arweiniad artistiaid/tiwtoriaid ac astudio annibynnol. Cefnogir y mygfyrwyr hefyd gan sesiynau tiwtorial rheolaidd a thrafodaethau grŵp.
Mae cystadlaethau’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr ehangu eu harddull unigryw a datblygu profiadau allgyrsiol.
Trefnir gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn i arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau eraill o ddiddordeb.
Cynhelir arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn sy’n arddangos ac yn dathlu gwaith unigryw a chreadigol y myfyrwyr.
Y Celfyddydau Gweledol ar Gampws Llwyn y Bryn
Mae cyrsiau galwedigaethol amser llawn ar gael ar amrywiaeth o lefelau. Cࣘânt eu haddysgu yn ein Canolfan y Celfyddydau lle mae staff profiadol ac amgylchedd creadigol yn rhoi modd i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth o gyfryngau a datblygu eu creadigrwydd a’u sgiliau eu hunain.
Cynhelir arddangosfeydd bob blwyddyn i ddathlu’r gwaith o ansawdd uchel a gynhyrchir gan y myfyrwyr ac mae’r rhian yn cael clod mawr.
Darganfod
Cynllunio ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau creadigol?
Mae cynifer o opsiynau ar gael – ewch ati i ymchwilio heddiw
Chwilio am gwrs Celf, Crefft a Ffotograffiaeth
Arddangosfeyd Celf Rithwir