Y Celfyddydau Creadigol ar Gampws Gorseinon
Rydym yn cynnig cyrsiau sefydledig Celf Greadigol ar Safon Uwch mewn Dylunio Tecstilau, Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Graffig a Ffotograffiaeth. Mae’r cyrsiau celf sylfaenol hyn ar gyfer y rhai sydd am ddilyn gyrfa ar lefel broffesiynol. Cânt eu haddysgu yn ein canolfan bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio. Mae’r amgylchedd ysbrydoledig hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu creadigrwydd unigryw eu hunain mewn meysydd astudio arbenigol.
Addysgir y cyrsiau trwy ddarlithoedd, gweithdai ysgogol dan arweiniad artistiaid/tiwtoriaid ac astudio annibynnol. Cefnogir y myfyrwyr hefyd gan sesiynau tiwtorial rheolaidd a thrafodaethau grŵp. Mae cystadlaethau’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr ehangu eu harddull unigryw a datblygu profiadau allgyrsiol. Trefnir gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn i arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau eraill o ddiddordeb.
Cynhelir arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn sy’n arddangos ac yn dathlu gwaith unigryw a chreadigol myfyrwyr.
Y Celfyddydau Gweledol ar Gampws Llwyn y Bryn
Mae cyrsiau galwedigaethol amser llawn ar gael ar amrywiaeth o lefelau. Cânt eu haddysgu yn ein Canolfan y Celfyddydau lle mae staff profiadol ac awyrgylch creadigol yn rhoi modd i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth o gyfryngau a datblygu eu creadigrwydd a’u sgiliau eu hunain.
Cynhelir arddangosfeydd bob blwyddyn i ddathlu’r gwaith o ansawdd uchel a gynhyrchir gan y myfyrwyr ac mae’r rhain yn cael clod mawr.
Chwilio am gwrs Celf, Crefft a Ffotograffiaeth
Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Darllen rhagor am y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.
Newyddion a Digwyddiadau Arts, Crafts and Photography
Eitemau Nodwedd
Lleoliadau gwaith cyffrous ym Myd Ffasiwn
Hoffech chi wneud profiad gwaith neu interniaeth ym myd ffasiwn? Dyna yn union beth mae cyn fyfyrwyr Ffasiwn Llwyn y Bryn Joanne Griffiths (Snow PR), Emma Jenkins (Sonia Carr) a Michelle Penny (Jonathan Saunders) wedi’i wneud!