Arlwyo a Lletygarwch

 

Mae gan fyfyrwyr ar y cyrsiau Coginio Proffesiynol y fantais o weithio mewn amgylchedd proffesiynol wrth iddynt baratoi a gweini bwyd yn y Vanilla Pod, y bwyty hyfforddi ar Gampws Tycoch

Mae’r cyrsiau hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa ym maes arlwyo a lletygarwch. Mae myfyrwyr yn cystadlu’n llwyddiannus yn rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Cynigir cyrsiau byr, sy’n para dim ond pum wythnos, mewn coginio Eidalaidd, Ffrengig neu Asiaidd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 100% o’n myfyrwyr Lefel Mynediad wedi symud ymlaen i lefel 1. 

Bydd cyflawni Lefel 2/3 yn agor cyfleoedd cyflogaeth mewn lletygarwch cyffredinol, paratoi bwyd a choginio. Er enghraifft, cafodd bron traean o’n myfyrwyr Lefel 2 waith yn y diwydiant ar ôl cwblhau eu cwrs.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth

Cwrdd â phen-cogyddion proffesiynol

Gwrandewch ar gyngor y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant pan fydd y coleg yn croesawu pen-cogyddion yn ystod 'dosbarthiadau meistr' ar gyfer myfyrwyr presennol.

Cysylltiadau â chyflogwyr

Gallwch loywi eich CV a galw heibio'r ffeiriau swyddi arbenigol rheolaidd sy'n cael eu cynnal i'r rhai a hoffai weithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Byd o flas

Trowch eich llaw at ddulliau coginio byd-eang - o Tsieina, Cymru, Ffrainc, Iwerddon - yn ogystal â bwydlenni arbennig fel Dydd Santes Dwynwen rhamantus a Masnach Deg - ar gyfer nosweithiau a digwyddiadau â thema.

 

Nid dim ond ein ceginau sydd fel y rhai y byddech yn eu gweld mewn bwyty proffesiynol

Pan fyddwch chi'n cofrestru i ddilyn un o'n cyrsiau arlwyo a lletygarwch rydym ni am i chi wybod sut beth yw hi i weithio yn y diwydiant ac mae'r bwyty Vanilla Pod yn llwyddo i wneud hynny. Gyda lle i 30, bar trwyddedig a cheginau â chymorth gyda'r holl offer proffesiynol diweddaraf un, byddwch chi'n dysgu am wasanaeth cwsmeriaid, gwaith blaen tŷ a choginio proffesiynol, yn gweini bwyd i'r cyhoedd bedair gwaith yr wythnos canol dydd a gyda'r hwyr.