Mae gan fyfyrwyr ar y cyrsiau Coginio Proffesiynol y fantais o weithio mewn amgylchedd proffesiynol wrth iddynt baratoi a gweini bwyd yn y Vanilla Pod, bwyty hyfforddi’r coleg ar gampws Tycoch. Mae’r cyrsiau hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa ym maes arlwyo a lletygarwch. Mae myfyrwyr yn llwyddo’n rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Cynigir cyrsiau byr, sy'n para dim ond pum wythnos, mewn coginio Eidalaidd, Ffrengig neu Asiaidd.