"Llongyfarchiadau ar ennill eich cymhwyster lefel uwch!

Mae cwblhau rhaglen lefel uwch yn gyflawniad sylweddol sy’n adlewyrchu’r ymroddiad a’r gwaith caled rydych chi wedi’i wneud ar gyfer eich astudiaethau a’ch gyrfa yn y dyfodol.

Dymunaf bob llwyddiant i chi yn y dyfodol."

Mark Jones

Ein myfyrwyr

Yr hyn sydd gan rai o Ddosbarth 2021 i’w ddweud am astudio addysg uwch gyda ni.

Stephanie Hole

Stephanie Hole
Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau a BA Anrhydedd Rheoli Busnes

Coleg Gŵyr Abertawe oedd y lleoliad delfrydol i mi gwblhau fy astudiaethau gradd – wnes i gwblhau fy nghymhwyster busnes Lefel 3 yno. Roedd y broses ymlaen i’r radd yn hawdd ac yn syml. O ganlyniad, roedd y pontio o Lefel 3 i Lefel 4 yn llai o straen ac yn llai brawychus. 
Un o’r pethau cadarnhaol am astudio yn y Coleg fyddai’r cymorth gan y darlithwyr wrth gwblhau aseiniadau. Byddai rhai darlithwyr hyd yn oed yn cynnig cymorth i helpu gyda gwahanol aseiniadau modiwlau na fyddent o reidrwydd yn eu dysgu i ni. Bydden nhw’n rhoi cymorth a gwneud briffiau aseiniad yn llawer mwy clir, ac felly roedden ni’n deall y gofynion yn llwyr i gael y canlyniad gorau.
Ers gadael y Coleg, dwi wedi bod yn ddigon lwcus i sicrhau swydd amser llawn yn gweithio yn y diwydiant digwyddiadau chwaraeon. Ar ôl cael fy anfon yn fy mlwyddyn gyntaf ar leoliad gyda’r cwmni, ces i gynnig swydd ran amser gyda nhw tra roeddwn i’n parhau i wneud fy ngradd. Nawr dwi’n ddigon lwcus i fod yn gweithio’n amser llawn ac yn cael llawer o gyfleoedd newydd.

Sophie Miles

Sophie Miles
Astudiaethau Plentyndod

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfle perffaith i mi gael gradd mewn amgylchedd mwy addas, a bod yn nes at gartref hefyd. Maint y dosbarthiadau oedd yr hyn a apeliodd fwyaf ata i. Mae’r Coleg yn hael ac yn hyblyg iawn gyda’ch astudiaethau ac yn ystyried y ffaith bod swyddi amser llawn gan rai pobl.

Caroline Morgan

Caroline Morgan
Addysg, Dysgu a Datblygiad 

Penderfynais i ei bod hi’n bryd dychwelyd i’r Coleg i ddiweddaru fy nghymwysterau a mynd i’r lefel nesaf. Mae bod yn fyfyriwr hŷn wedi bod yn fuddiol i mi oherwydd mae gyda fi lawer iawn o wybodaeth a phrofiad sydd o gymorth i mi wrth gyflawni’r aseiniadau. Mae’r darlithwyr a staff y llyfrgell yn gymwynasgar iawn yn rhoi digon o gymorth ac arweiniad i chi. Mae gan y llyfrgell ddetholiad rhagorol o lyfrau y gallwch chi eu cyrchu ar-lein ac yn y llyfrgell addysg uwch.

Charlotte Houlton

Charlotte Houlton
Cyfiawnder Troseddol

Penderfynais i astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oherwydd doeddwn  i ddim yn hollol barod ar gyfer y brifysgol. Roeddwn i wir yn hoffi’r ffordd y gwnaeth y darlithwyr addysgu’r cwrs, fe wnaethon nhw hynny mewn ffordd broffesiynol, ond eto’n hamddenol, gan wneud i mi deimlo’n gyfforddus a gallwn i fynd atyn nhw ar unrhyw adeg.

Ein llyfr gwesteion

Yr hyn roedd rhai o’n tîm addysg uwch am ei ddweud wrth y myfyrwyr.

"Llongyfarchiadau Dîm Tai! Rydyn ni’n falch iawn o’ch llwyddiant ac yn fwy fyth o ystyried eich bod chi wedi llwyddo i gwblhau’ch cymhwyster trwy gyfnod digynsail. Rydyn ni’n gwybod y buoch chi i gyd yn gweithio ar y llinell flaen a’ch bod wedi ymroi i gynorthwyo tenantiaid yn ein cymunedau lleol drwy gydol y pandemig. Mae wedi bod yn bleser pur i’ch gweld chi i gyd yn symud ymlaen ac yn datblygu drwy gydol y cwrs.
Rydyn ni’n siŵr bod eich cyflogwyr, eich teuluoedd a’ch ffrindiau yn hynod falch ohonoch chi, fel ninnau. Pob lwc ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n gwybod y byddwch yn parhau i wneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau pobl a’r cymunedau lle maen nhw’n byw."
Rebecca Field a Lucy Bird, Tai

"Llongyfarchiadau ar gyflawni’r cymhwyster anhygoel o anodd hwn. Mae wedi bod yn wych gweld pob un ohonoch yn datblygu ac yn tyfu yn eich rolau proffesiynol. Fel tîm, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y blynyddoedd i ddod neu at glywed am eich cynnydd yn eich rolau addysgu yn y sector AHO. Da iawn i bob un ohonoch am eich llwyddiant!"
Tîm TAR

"Hoffwn i longyfarch pob un ohonoch ar eich gwaith caled, a’r ffordd rydych chi wedi ymaddasu ac ymateb i’r heriau a gafodd effaith ar eich astudiaethau yn y flwyddyn olaf. I’r myfyrwyr Rheoli Digwyddiadau – rydych chi wedi cadw’n bositif, yn frwd ac rydych chi wedi gweithio’n galed iawn i wneud y mwyaf o unrhyw gyfleoedd rydych wedi’u cael i roi’ch pwnc ar waith. I’r myfyrwyr BA Rheoli Busnes – fe wnaethoch chi gofleidio amgylchiadau heriol ar y naw a gweithio’n ddygn i gael canlyniadau ardderchog. Dwi’n dymuno pob llwyddiant i chi yn y dyfodol yn eich holl ymdrechion a dwi’n edrych ymlaen at weld sut mae’ch gyrfaoedd yn datblygu. Llongyfarchiadau!"
Leanne Howe, Digwyddiadau a Busnes

"Hoffwn i longyfarch pob un ohonoch ar eich llwyddiant mawr eleni. Byddai eich canlyniadau yn rhagorol mewn unrhyw flwyddyn, ond i gael y graddau hyn yn ystod pandemig, a hefyd gyda chwrs newydd ei ddilysu, yn gamp anhygoel. Dwi’n dymuno pob llwyddiant i chi yn y dyfodol a gobeithio y byddwch chi’n symud ymlaen i wireddu’ch uchelgeisiau a’ch breuddwydion."
Bruce Fellows, Busnes a Thechnoleg

"Wnaethoch chi lwyddo! Llongyfarchiadau ar raddio, dylech chi fod mor falch o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Pob lwc ar gyfer y dyfodol a beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud...byddwch yn wych!"
Bethan Hughes, Tîm Canolog AU

"Llongyfarchiadau bawb! Cyflawniad gwych, mae’ch ymrwymiad i’ch astudiaethau wedi bod yn rhagorol o dan amgylchiadau anodd. Dwi’n dymuno’n dda i chi i gyd, a dwi’n edrych ymlaen at glywed am eich holl lwyddiannau sydd i ddod."
Rhian Pardoe, Iechyd a Gofal

"Fel Rheolwr Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, hoffwn i’ch llongyfarch ar gyflawni eich cwrs Addysg Uwch yn y Coleg. Rydyn ni’n llwyr werthfawrogi’r ymroddiad a’r ymrwymiad y mae hyn wedi’u gofyn, yn enwedig trwy’r cyfnod heriol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dwi’n dymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer y dyfodol a dwi’n falch iawn ein bod ni wedi gallu chwarae rhan yn eich taith addysg."
Ryan Jarvis, Tîm Canolog AU