Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymroi i wneud chwaraeon elit a hamdden yn gwbl hygyrch i bob myfyriwr.
Yn yr Academi Chwaraeon, mae sawl ffordd y gall myfyrwyr ymgorffori chwaraeon elit a hyfforddiant ffitrwydd yn eu profiad dysgu heb effeithio ar eu hastudiaethau academaidd.
Bydd ymuno ag un o Academïau Chwaraeon y Coleg yn sicrhau eich bod yn derbyn cyfuniad o hyfforddiant corfforol ac ystwythder meddyliol a fydd yn eich cadw’n effro yn yr ystafell ddosbarth ac yn gryf yn gorfforol – gan eich helpu i gael y cymwysterau academaidd a’r sgiliau chwaraeon gorau. Bydd gennych fynediad i rai o gyfleusterau hyfforddiant chwaraeon gorau Cymru, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg chwaraeon ac offer ffitrwydd arbenigol.

Academi Pêl-droed Dynion
Coleg Gŵyr Abertawe yw’r prif goleg pêl-droed yng Nghymru i chwaraewyr 16-19 oed ac mae’r Academi Pêl-droed Dynion yn cyflym droi yn un o brif sefydliadau Cymru ar gyfer hyfforddiant ar lefel elit.

Academi Pêl-droed Merched
Mae Academi Pêl-droed Merched Coleg Gŵyr Abertawe yn gymharol newydd, ond yn ystod y ddau dymor diwethaf mae’r tîm wedi ennill Cwpan Ysgolion Cymru a Chynghrair Colegau Cymru!
Academi Rygbi
Mae Academi Rygbi Coleg Gŵyr Abertawe wedi creu rhai o’r chwaraewyr rygbi proffesiynol mwyaf adnabyddus, o chwaraewyr Cymru a’r Llewod Justin Tipuric a Leigh Halfpenny i chwaraewyr y Gweilch Eli Walker, Ben John, Nicky Smith, Sam Davies a Scott Otten.
Academi Pêl-rwyd
Bydd ymuno â’r Academi Pêl-rwyd yn agor nifer o ddrysau i fyfyrwyr a hoffai hyfforddi yn y gamp, dysgu sut i hyfforddi, trefnu twrnameintiau i chwaraewyr iau a chystadlu ar lefel elit.
Ysgoloriaethau Chwaraeon Ysbrydoli Rhagoriaeth
Os ydych yn chwarae camp gynrychiadol (h.y. ar lefel sirol neu genedlaethol) gallech fod yn gymwys i gael Ysgoloriaeth Chwaraeon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
- Cymorth ariannol
- Hyfforddiant o safon
- Cystadlu ar y lefelau uchaf
- Meithrin cysylltiadau proffesiynol
- Bod yn batrwm ymddwyn
- Gwych ar gyfer eich CV!
Ffoniwch Marc O'Kelly ar 01792 284115 neu e-bostiwch marc.okelly@gowercollegeswansea.ac.uk
