Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19)
Mae’r dudalen we bwrpasol hon yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin i helpu i gefnogi ein staff, ein myfyrwyr, rhieni ac eraill ar yr adeg heriol hon.
Rydym yn annog yr holl staff a myfyrwyr i wirio’r dudalen we hon yn rheolaidd a dilyn ein safleoedd y cyfryngau cymdeithasol:
Twitter: @GowerCollegeSwa
Facebook: /gowercollegeswansea
Instagram: /gowercollegeswansea
LinkedIn: Gower College Swansea
Gwybodaeth a chanllawiau am Goronofeirws Eich cadw'n ddiogel ac yn iach Gwybodaeth i fyfyrwyr Gwybodaeth am asesiadau'r Haf Gwybodaeth i ymgeiswyr amser llawn Gwybodaeth i ymgeiswyr Gwybodaeth i gyflogwyr prentisiaid Cymorth cyflogaeth
Gwybodaeth am asesiadau'r haf 2022
Beth os ydw i’n dost yn ystod cyfnod yr arholiadau?
Mae’r sefyllfa yn dibynnu ar yr arholiad rydych chi’n ei sefyll. Ni ddylech chi ddod i’r arholiad os ydych chi wedi cael prawf covid cadarnhaol neu os oes symptomau gennych. Cysylltwch â’ch darlithydd i roi gwybod iddo. Yn ogystal, gallwch gysylltu â’r swyddfa arholiadau i gael canllawiau pellach:
Campws Gorseinon: 01792 890773 / 890700
Pob campws arall: 01792 284006
Examabsence@gcs.ac.uk
Yn gyffredinol mae gan gyrsiau Galwedigaethol arholiadau ar gais. Mae hyn yn golygu os oes angen i chi golli’ch arholiadau oherwydd salwch neu mae angen i chi hunanynysu oherwydd prawf covid cadarnhaol, gallwn ni ad-drefnu i chi sefyll eich arholiadau pan fyddwch chi’n well. Bydd hyn yn rhoi modd i chi basio’ch cymhwyster.
O ran arholiadau sydd â dyddiadau gosod fel TGAU, Safon Uwch/UG, BTEC Galwedigaethol, ni ellir trefnu i chi sefyll y rhain ar ddyddiad arall.
Dylai myfyrwyr neu eu rhieni/gwarcheidwaid gysylltu â’r swyddfa arholiadau os na allan nhw fynd i arholiad oherwydd salwch neu anaf. Bydd staff y swyddfa arholiadau yn trafod beth mae hyn yn ei olygu i chi, a sut i wneud cais am ystyriaeth arbennig.
Yn ogystal, cafodd canllawiau penodol am absenoldeb oherwydd covid eu diweddaru ar 3 Mai 2022. Mae hyn yn golygu:
- Os oes gennych chi un neu fwy o’r tri phrif symptom covid (peswch parhaus, tymheredd uchel, colli’ch gallu i flasu neu arogli), dylech chi gymryd Prawf Llif Unffordd. Os yw’n gadarnhaol, dylech chi gysylltu â’r swyddfa arholiadau i roi gwybod iddynt na fyddwch chi’n dod. Byddwn ni’n trafod beth mae hyn yn ei olygu i chi tra byddwch chi’n hunanynysu. Byddwn ni’n anfon yr hyn sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am ystyriaeth arbennig.
- Mae angen dau brawf llif unffordd negyddol arnoch i ddychwelyd a sefyll gweddill eich arholiadau. Y cynharaf y gallwch chi wneud hyn yw diwrnod tri a phedwar. Os yw eich prawf llif unffordd yn negyddol ar ddiwrnod tri a phedwar, gallwch fynd i’ch arholiad fel arfer ar ddiwrnod pedwar eich cyfnod ynysu os ydych chi’n teimlo’n ddigon da. Os yw eich prawf llif unffordd yn dal yn bositif ar ddiwrnod tri a phedwar, neu os ydych chi’n dal i deimlo’n dost mae angen i chi brofi bob dydd nes i chi gael dau brawf llif unffordd negyddol yn olynol, neu basio’r 10 diwrnod o hunanynysu. Yna gallwch chi ddychwelyd a sefyll gweddill eich arholiadau.
Gallwch chi wneud cais am ystyriaeth arbennig os ydych chi’n absennol o arholiad am reswm derbyniol. Mae’n gofyn i’r bwrdd arholi ddyfarnu gradd os yw rhan sylweddol o’r cymhwyster fel arall wedi cael ei hasesu’n ffurfiol. Ar gyfer haf 2022 mae hyn yn golygu bod rhaid i chi fod wedi cwblhau un elfen gyfan.
Sylwch fod canllawiau JCQ yn berthnasol ar gyfer pob arholiad allanol. Mae hyn yn golygu bod modd ymchwilio i unrhyw ystyriaeth arbennig ffug gan ddefnyddio polisi a gweithdrefn safonol JCQ os bydd ymgeisydd dan amheuaeth o gamymarfer.
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall eu canlyniadau gael eu tynnu yn ôl, neu gallan nhw gael eu hanghymwyso os ydyn nhw’n darparu gwybodaeth ffug am eu cymhwystra i gael ystyriaeth arbennig.
Mae modd casglu Prawf Llif Unffordd am ddim o lyfrgelloedd y Coleg tan ddiwedd mis Mehefin. Ni ddisgwylir i chi gael prawf fel mater o drefn cyn dod i sefyll arholiad, ond efallai yr hoffech chi gasglu cyflenwad ar gyfer eich cartref.
Cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch, a Thystysgrif Her Sgiliau
Mae CBAC a byrddau arholi eraill wedi gwneud newidiadau i’r cymwysterau ar gyfer haf 2022. Mae gwybodaeth am y newidiadau i’w gweld ar wefan CBAC.
Yn achos byrddau arholi yn Lloegr, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan JCQ.
Mae’r newidiadau hyn ar waith gan fod y pandemig wedi tarfu ar eich dysgu. Maen nhw’n wahanol ym mhob cymhwyster a byddan nhw’n eich helpu i ganolbwyntio’ch amser o ran paratoi ar gyfer eich arholiadau yr haf nesaf.
Sut bydd cymwysterau TGAU, Safon UG ac Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau’n cael eu hasesu a’u graddio yn haf 2022?
Y bwriad yw y bydd arholiadau’n cael eu cynnal yr haf nesaf. Mae hyn yn golygu y dylech gael eich asesu yn eich pynciau yn y ffordd arferol.
Rhaid i’r broses raddio fod mor deg ag sy’n bosibl i bawb ac mae’n adlewyrchu’r tarfu ar ddysgu ac addysgu rydych chi wedi’i brofi hyd yn hyn ac efallai eleni hefyd. Felly, ar gyfer haf 2022, bydd y dull yr un peth i chi ag y bydd mewn rhannau eraill o’r DU.
Mae hyn hefyd yn bwysig i sicrhau bod gennych gymwysterau o werth cyfartal â’r rhai a gymerwyd gan ddysgwyr o rannau eraill o’r DU fel y gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf o’ch addysg neu’ch gyrfa.
Cymwysterau galwedigaethol
Y bwriad yw y bydd cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hasesu yn y ffordd arferol eleni. Byddwch yn cwblhau’r aseiniadau priodol fel rhan o’ch cwrs.
Os yw rhan o’ch cymhwyster galwedigaethol neu bob rhan ohono yn cael ei hasesu trwy arholiad, bydd y rhain yn mynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd.
Sut ydw i’n cael fy nhystysgrif o’r haf diwethaf
Caiff eich tystysgrif ei phostio i’ch cyfeiriad cartref. Os ydych wedi newid cyfeiriad, gwyliwch am e-bost gennym ni, sy’n amlinellu’r hyn sy’n rhaid i chi ei wneud. Mae postio wedi ail-ddechrau nawr gan fod mesurau’r cyfnod clo wedi’u codi.
Os oes angen eich tystysgrif arnoch ar frys at ddibenion cyflogaeth, e-bostiwch examsenquiry@gcs.ac.uk
Dolenni defnyddiol i wefannau cyrff dyfarnu
Mae’r dolenni hyn yn mynd â chi yn uniongyrchol i’w diweddariadau ar sefyllfa coronafeirws.
- AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu)
- Agored Cymru
- AQA
- Ascentis
- ASDAN (Rhwydwaith Datblygu ac Achredu Cynlluniau Dyfarnu)
- CIH (Y Sefydliad Tai Siartredig)
- City & Guilds
- CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig)
- EAL (Cyflawniad a Dysgu Rhagorol)
- Cymwysterau Highfield
- IWFM (Sefydliad Rheoli'r Gweithle a Chyfleusterau)
- LIBF (Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain)
- NCFE
- NOCN
- OCR
- Pearson Education Ltd
- Dyfarniadau Grŵp Sgiliau ac Addysg
- SLQ
- STA (Dyfarniadau Hyfforddiant Diogelwch)
- UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain)
- VTCT
- WAMITAB
- WJEC
- Dyfarniadau YMCA
Gwybodaeth am ganlyniadau ac apelio - ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Pearson BTEC, OCR neu UAL
Fel y gwyddoch, bydd canlyniadau eich cwrs galwedigaethol yn cael eu cyhoeddi ar 10 Awst ar gyfer Lefel 3, a 12 Awst ar gyfer Lefelau 1 a 2. Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch cyn bo hir ynghylch pryd a ble y gallwch chi gasglu eich canlyniadau ar y dyddiau hyn.
Bydd staff hefyd ar gael ar gyfer unrhyw gyngor, arweiniad a chymorth sydd eu hangen arnoch.
Pan gewch eich canlyniadau, byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut i wneud apêl os ydych yn teimlo nad yw’ch graddau’n adlewyrchu’r gwaith rydych chi wedi’i gynhyrchu eleni.
Bydd y ddolen hon yn rhoi’r manylion i chi, ond cofiwch y byddwn ni’n rhoi dolenni i chi i ddogfennau apelio’r Coleg maes o law.
Mae’n bwysig nodi y bydd angen i chi gyflwyno apêl erbyn dydd Llun 16 Awst ar gyfer apêl â blaenoriaeth h.y. os yw eich lle prifysgol, prentisiaeth neu swydd yn dibynnu ar eich graddau neu erbyn dydd Gwener 3 Medi ar gyfer apeliadau eraill.
Gobeithio y byddwch yn dod i ymuno â ni ar ddiwrnod y canlyniadau i ddathlu’ch cyflawniadau. Bydd gennym luniaeth am ddim i chi a’ch teulu ar gampysau Gorseinon a Thycoch.
Gwybodaeth a chanllawiau am goronofeirws
Beth allaf ei wneud i helpu i leihau lledaeniad y feirws yn y Coleg?
Yn union fel yr annwyd cyffredin, mae coronafeirws fel arfer yn digwydd drwy gyswllt agos ag unigolyn sydd â’r haint neu drwy gyffwrdd ag arwynebau wedi’u heintio os nad ydych yn golchi’ch dwylo’n iawn.
Mae pethau syml y gallwch eu gwneud i atal y feirws rhag lledaenu. Dyma rai canllawiau i’ch helpu:
- Cymerwch brawf llif unffordd cyn dod i’r Coleg (gallwn ni ddarparu’r rhain)
- Diheintiwch eich dwylo pan fyddwch yn dod i mewn i adeiladau’r campws
- Gwisgwch orchudd wyneb (oni bai eich bod wedi'ch eithrio)
- Defnyddiwch brofion llif unffordd dair gwaith yr wythnos ac ynysu os yw’r prawf yn bositif.
- Ceisiwch gadw pellter o bobl eraill. Fel canllaw, ceisiwch beidio â bod o fewn dau fetr o rywun arall am 15 munud neu o fewn un metr am funud
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd am o leiaf 20 eiliad
- Defnyddiwch hylif diheintio dwylo ag alcohol os nad oes sebon a dŵr ar gael
- Osgowch gyffwrdd â’r llygaid, eich trwyn a’ch ceg â dwylo heb eu golchi
- Pan fyddwch yn peswch ac yn tisian, gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn â’ch penelin wedi’i blygu neu â hances bapur
- Gwnewch yn siŵr bod eich man gwaith h.y. cyfrifiadur personol/gliniadur/ffôn yn cael ei glanhau’n briodol.
A ddylwn i hunan-ynysu?
- os ydyn nhw’n dioddef o’r coronafeirws, wedi’i gadarnhau gan brawf PCR
- os oes ganddynt symptomau’r coronafeirws, er enghraifft, tymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli/newid yn y gallu i arogli neu flasu. Gallwch chi ddefnyddio gwiriwr symptomau Galw Iechyd Cymru hefyd
- os ydyn nhw wedi cael prawf llif unffordd positif ac yn aros am brawf PCR neu ganlyniad
- os yw Profi Olrhain Diogelu wedi dweud eu bod nhw’n gorfod hunanynysu
- os ydyn nhw wedi ymweld yn ddiweddar â gwlad sydd ar restr goch Swyddfa Dramor y DU.
Mae’r staff neu’r myfyrwyr sy’n hunanynysu ond sy’n ddigon iach i weithio neu ddysgu yn gallu parhau i wneud hynny gartref.
Myfyrwyr
Os ydych chi’n fyfyriwr ac wedi cael prawf llif unffordd neu brawf PCR positif, rhaid i chi roi gwybod i’n swyddog gweinyddol Covid-19 drwy e-bost covid@gcs.ac.uk.Bydd rhaid i chi rannu’r wybodaeth ganlynol:
- Dyddiad y prawf llif unffordd neu'r prawf PCR neu ddyddiad dechrau’r symptomau os yw’n gynharach
- Diwrnod diwethaf yn y Coleg
- Dyddiad diwedd yr hunanynysu
Bydd swyddog gweinyddol Covid-19 yn rhannu’r wybodaeth â’ch tiwtor ac unrhyw staff eraill yn y Coleg.
Staff
Os ydych yn aelod o staff sydd wedi cael canlyniad prawf llif unffordd neu positif, rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr llinell ar unwaith cyn hunanynysu. Dylid gwneud hyn mor bell ag sy’n bosibl drwy ffonio neu drwy alwad uniongyrchol ar Teams. Gall neges i Adnoddau Dynol gael ei dilyn gan e-bost os bydd angen.
Ble alla i ddod o hyd i’r canllawiau diweddaraf ar gyfer ardal Abertawe?
I gael gwybodaeth bellach sy’n berthnasol i Ddinas a Sir Abertawe, ewch i’r gwefannau hyn"
Dewch o hyd i ganllawiau eraill yma:
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg
Darllenwch ddiweddariad Llywodraeth Cymru sy’n nodi eu cynlluniau a’u gweithredoedd ynghylch sicrhau bod ein myfyrwyr yn cadw’n ddiogel, wrth iddynt barhau i ddysgu.
Gweler dolenni defnyddiol isod:
Canllawiau cyfredol addysg bellach
Canllawiau cyfredol ar gyfer addysg uwch
Canllawiau cyfredol ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau
Dysgu a sgiliau Ôl-16: yma, gallwch ddod o hyd i ddeunydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Covid-19 (gan gynnwys Cynllun Cadernid Covid-19 ar gyfer y sector Ôl-16), a chymorth ynghylch dysgu o bell.
Sut i lawrlwytho ap Covid-19 GIG
Os ydych chi am…
- wybod eich lefel risg
- trefnu profion Covid-19
- ein helpu ni i gadw Cymru’n ddiogel
Lawrlwythwch ap Covid-19 GIG heddiw.
Cyngor ar sut i gael pàs Covid
Sut i gael pàs Covid y GIG i ddangos eich bod wedi cael eich brechu rhag Covid-19, neu eich bod wedi cael prawf negatif.
Cael eich pàs COVID y GIG | LLYW.CYMRU
Canllawiau
Defnyddio Pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos | LLYW.CYMRU
Gwybodaeth i fyfyrwyr
Beth os ydw i’n fyfyriwr rhyngwladol?
Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n bwriadu teithio i’r DU ddilyn y canllawiau yn unol â chyngor yr FCDO (y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu) ar deithio.
Rhaid iddynt wirio pa wledydd sydd wedi’u heithrio rhag gorfod ymgymryd â chyfnod o hunan-ynysu.
Mae’n bwysig cadw llygad allan am ddiweddariadau gan fod y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson.
Beth os ydw i'n fyfyriwr addysg uwch?
Mae’r cyngor yr un peth ag ar gyfer myfyrwyr eraill yn y Coleg.
Os ydych yn dod i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio’ch cwrs, dilynwch ein canllawiau.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n prifysgolion partner a byddwn yn cyfleu unrhyw newidiadau i drefniadau presennol yn ôl yr angen.
Eich cadw'n ddiogel ac yn iach
Sut alla i gael mynediad i gymorth staff?
Mae gan bob aelod staff y Coleg fynediad i’n rhaglen gymorth i weithwyr Health Assured sy’n cynnig cwnsela ar-lein ac amrywiaeth o weminarau ar bynciau iechyd a lles. Gallwch ffonio nhw ar 0800 030 5182.
Sut alla i gael mynediad i gymorth myfyrwyr?
Byddwn ni’n cynnig cymorth lles o bell gan gynnwys Gweithgaredd y Dydd ac Awgrym Iechyd y Dydd.
Ar Moodle, gallwch ddarllen gwybodaeth ddefnyddiol gan asiantaethau allanol gan gynnwys Info Nation, Cruse, Platform ac SCVS.
Gallwch hefyd gael gafael ar y cynlluniwr lles ar y porth myfyrwyr.
I gael cymorth iechyd myfyrwyr, ffoniwch 01792 284000 neu e-bostiwch
Angela Clarke - 07789 380084
Lucy Hughes - 07501 727164
Mae Swyddogion Cymorth Myfyrwyr bellach yn cynnig sesiyanu cymorth un i un. Mae asesiad risg wedi cael ei gynnal yn eu swyddfeydd i sicrhau pellhau cymdeithasol 2m. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhifau canlynol:
Swyddog Cymorth Myfyrwyr | Ffôn Symudol |
Cathy Thomas | 07946 373455 |
Vicki Wannel | 07393 789288 |
Mo Qasim | 07917 136101 |
Naima Khanom | 07768 035787 |
Tamsyn Oates | 07867 135815 |
Ryan McCarley | 07917 352153 |
Ian Billington | 07880 089048 |
Tîm Cyllid | Ffôn Symudol |
Catherine Marple | 07776 623531 |
Nicola Howell | 07776 618516 |
Carol Jones | 07500 559123 |
Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg ffoniwch ein prif dderbynfa ar 01792 284000 (Tycoch) neu 01792 890700 (Gorseinon).
Mae angen i mi ddefnyddio’r gwasanaeth cwnsela, beth ddylwn i ei wneud?
Mae gwasanaeth cwnsela Exchange yn cynnig cwnsela wyneb yn wyneb ym mhob prif gampws. Mae asesiad risg wedi cael ei gynnal ym mhob swyddfa i sicrhau pellhau cymdeithasol 2m.
Gall Swyddog Cymorth Myfyrwyr eich atgyfeirio neu gallwch hunanatgyfeirio gan ddefnyddio’r wefan hon.
Yn ogystal, gallwch gyrchu cwnsela ar-lein neu gymorth neges destun trwy glicio ar yr amlen wen ar waelod y dudalen we hon.
Os oes angen cymorth arnoch oherwydd profedigaeth, gall ein Swyddogion Cymorth Myfyrwyr eich cyfeirio at wasanaeth cwnsela The Exchange. Mae ein Hymgynghorwyr Iechyd Myfyrwyr hefyd ar gael i gynnig cymorth.
Gall Cruise helpu gyda’r canlynol:
- Cael cymorth yn dilyn marwolaeth rhywun agos
- Cefnogi rhywun sy’n galaru
- Ymdopi â galar wrth ynysu
Togetherall
Os ydych chi’n teimlo bod angen arnoch gefnogaeth brys, gallwch gyrchu ein porth lles, Togetherall. Ymunwch â’r porth trwy ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi coleg a’ch dyddiad geni.
Mae angen i mi gysylltu â Swyddog Diogelu
Swyddogion Diogelu (ar gyfer myfyrwyr amser llawn, rhan-amser a phrentisiaid) |
Ian Billington | 07880 089048 |
Naima Khanom | 07768 035787 |
Vicki Wannell | 07393 789238 |
Ryan McCarley | 07917 352153 |
Tamsyn Oates | 07867 135815 |
Anne Pitman | 01792 284169 |
Swyddog Diogelu (ar gyfer prentisiaid yn unig) |
Adele Bubear | 07798 822867 |
Mae rhagor o rifau defnyddiol i'w gweld yma.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu yn ystod oriau gwaith arferol.
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.30am-5pm a dydd Gwener: 8.30am-4.30pm
Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg ffoniwch ein prif dderbynfa ar 01792 284000 (Tycoch) neu 01792 890700 (Gorseinon).
Os ydych chi – neu rywun rydych chi’n ei adnabod – yn dioddef o gam-drin domestig, mae llawer o wybodaeth ar gael ar wefan Cymorth i Ferched Cymru ynghylch sut i gael help.
Gwefannau defnyddiol eraill yw Shelter Cymru, Cynllun Dyn a'r Llinell Gyngor i Ddynion.
Diogelu ar-lein: cyngor i rieni/gwarcheidwaid
Ystyriwch y canlynol pan fyddwch chi, neu’ch plentyn ar-lein.
Dylai pobl ifanc:
- Wybod yn union gyda phwy maen nhw’n siarad
- Gwirio os ydynt yn gallu cael mynediad at adnoddau a gemau
- Gwarchod eu henw da ar-lein
- Agor negeseuon o ffynonellau y maent yn ymddiried ynddynt yn unig
- Peidio â dosbarthu unrhyw fath o wybodaeth bersonol
- Peidio â rhannu delweddau, fideos neu unrhyw ddeunydd anweddus
- Peidio â chyfathrebu â rhywun os ydynt yn teimlo’n anghyfforddus
- Gwybod nad yw popeth ar-lein yn adlewyrchu’r gwirionedd
- Blocio neu riportio unrhyw un sydd yn trolio
- Peidio ag ildio i bwysau
- Meddwl yn ddwys cyn postio
Dylai rhieni/gwarcheidwaid:
- Fonitro gyda phwy y mae eu plentyn yn cyfathrebu ar-lein
- Monitro’r cynnwys a’r deunydd sy’n cael ei gyrchu/lawrlwytho
- Gwirio bod y cynnwys yn weddus
- Gosod ffiniau a rheolaethau rhieni
- Trafod gweithgarwch a thueddiadau ar-lein eu plentyn
- Rheoli/gwirio gosodiadau preifatrwydd
- Gwybod sut i gael gafael ar help
Gallwch adrodd unrhyw bryderon yma
Adnoddau defnyddiol eraill
Gwybodaeth i ymgeiswyr amser llawn
Dwi eisiau gwneud cais am gwrs amser llawn, beth ddylwn i ei wneud?
Mae ceisiadau ar agor nawr am gyrsiau amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi 2022.
Gallwch gyrchu ein ffurflen gais yma.
Dwi wedi cyflwyno fy nghais, beth sydd nesaf?
Bydd ein tîm derbyn yn trefnu cyfweliad i chi. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn clywed gennym yn syth, gall gymryd nifer o wythnosau cyn i ni drefnu eich cyfweliad.
Dwi wedi derbyn fy nghynnig Coleg, sut ydw i’n cadarnhau fy lle?
Byddwch yn derbyn e-bost arall bythefnos ar ôl y cynnig a fydd yn esbonio i chi sut y gallwch dderbyn a chadarnhau eich lle.
Rydw i eisiau newid fy nghwrs, sut ydw i’n gwneud hyn?
E-bostiwch admissions@gcs.ac.uk . Bydd y tîm yn hapus i’ch helpu.
Pryd fydda i’n cofrestru yn y Coleg?
Byddwch yn cael gwahoddiad i gofrestru ar-lein fel myfyriwr ym Mehefin. Byddwn yn anfon gwybodaeth bellach am hyn i chi yn agosach at y dyddiad.
Byddwn ni’n cynnal sesiynau cofrestru wyneb yn wyneb yn y Coleg ym mis Mehefin a mis Awst.
Byddwch yn derbyn eich apwyntiad cofrestru yn y post.
Oes dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau?
Does yna ddim dyddiad cau, ond oherwydd bod rhai cyrsiau yn fwy poblogaidd nag eraill, rydym yn argymell i chi gyflwyno cais cyn gynted â phosib, er mwyn osgoi cael eich siomi.
Cysylltiadau defnyddiol
Ar gyfer cyrsiau amser llawn a phrentisiaethau: admissions@gcs.ac.uk
Ar gyfer cyllid myfyrwyr: studentfunding@gcs.ac.uk
Gwybodaeth i ymgeiswyr eraill
Dwi eisiau gwneud cais am gwrs rhan-amser, beth ddylwn i ei wneud?
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer ein cyrsiau rhan-amser 2021/2022 bellach yn fyw.
Mae llawer o’n cyrsiau rhan-amser ar gael ar gyfer cofrestru ar-lein. Os bydd cyfweliad yn ofynnol, byddwn yn cynnal y rhain dros y ffôn os yw’n bosibl. Edrychwch ar y cardiau cwrs unigol i gael rhagor o wybodaeth.
Cofiwch fod y Coleg hefyd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a chymorth gyrfa trwy ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Dwi eisiau gwneud cais am brentisiaeth, beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch barhau i wneud cais am brentisiaeth gyda ni.
Bydd cyfweliadau, asesiadau a hyfforddiant yn digwydd o bell ar-lein a dros y ffôn.
Llenwch y ffurflen gais prentisiaethau a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ymhellach.
Hoffwn wneud cais am gwrs addysg uwch, beth ddylwn ei wneud?
Dylech barhau i wneud cais am gwrs amser llawn trwy UCAS
Ar gyfer cyrsiau rhan-amser, gallwch wneud cais yma
Os oes angen cyfweliad neu glyweliad ar gyfer y cwrs, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i ad-drefnu. Gallai hyn fod drwy Skype neu dros y ffôn.
Os oes gennych ymholiad ynghylch cwrs addysg uwch cysylltwch â ni
Cysylltiadau defnyddiol
Ar gyfer cyrsiau amser llawn a phrentisiaethau: admissions@gcs.ac.uk
Cyrsiau rhan-amser: info@gcs.ac.uk
Ar gyfer cyllid myfyrwyr: ffoniwch 07500 559123 / 07500 559246 neu e-bostiwch studentfunding@gcs.ac.uk
Gwybodaeth i gyflogwyr prentisiaid
A fydd prentisiaethau yn cael eu hatal neu eu gohirio am y tro?
Yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae’r holl brentisiaethau bellach yn cael eu haddysgu yn ôl yr arfer.
Mae holl gampysau’r Coleg bellach ar agor ac mae aseswyr yn ymweld â gweithleoedd (yn unol â’n prosesau asesu risg Covid-19) i gwblhau asesiadau ac adolygiadau cynnydd. Rydym yn parhau i ddefnyddio cymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol a bydd eich tiwtor/aseswr yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi am hyn.
Rydym wedi gweithio gyda dysgwyr, cyflogwyr a sefydliadau dyfarnu i flaenoriaethu asesiadau ar gyfer y prentisiaid oedd i fod i gwblhau asesiadau ac arholiadau yn ystod cyfnodau clo Covid-19, gan ymestyn eu dyddiadau cwblhau targed yn ôl yr angen i leihau effaith yr oedi.
Rydym yn parhau i gynorthwyo cyflogwyr i recriwtio a hyfforddi staff newydd a phresennol yn ystod y cyfnod hwn.
Dw i ddim yn hyderus yn defnyddio Smart Assessor / Dwi wedi anghofio fy manylion mewngofnodi
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’ch aseswr a fydd yn gallu trefnu rhagor o gymorth i chi. Bydd hefyd yn gallu ailosod eich cyfrinair Aseswr Clyfar.
Rydym yn sylweddoli bod Aseswr Clyfar a dysgu o bell yn newydd i lawer. Gall ein staff cymorth roi hyfforddiant i chi ac rydym wedi creu fideos YouTube i’n cyflogwyr a’n prentisiaid sy’n dangos sut i’w ddefnyddio. Gofynnwch i’ch tiwtor/aseswr a fydd yn gallu trefnu hyn i chi.
Dwi’n pryderu bod fy mhrentis yn cael trafferthion ar hyn o bryd
Cysylltwch â’ch aseswr ar ffôn symudol/e-bost yn y lle cyntaf.
Rydym wedi cynyddu ein hadnoddau lles i ddysgwyr ac maen nhw ar gael ar blatfform Moodle y Coleg a’r Aseswr Clyfar.
Os ydych yn pryderu am les eich prentis, cysylltwch â’n Swyddog Lles, Adele Bubear, ar 07798 822867.
Yn ogystal, gallwn roi cymorth ychwanegol i chi drwy ein hyfforddwyr dysgu, swyddogion diogelu eraill a gallwn gyfeirio dysgwyr at gymorth arbenigol pan fydd angen.
Beth fydd yn digwydd i’r Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr yn ystod y cyfnod hwn?
Bwriedir y Cymhelliant Cyflogwr i’r holl gyflogwyr sy’n recriwtio aelod newydd o staff fel prentis rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2022.
Bydd taliadau’n parhau fel arfer, 50% ar ôl 4 wythnos a’r 50% sy’n weddill ar ôl 270 diwrnod o ddyddiad dechrau’r prentis.
Cymorth cyflogaeth
Sut alla i gael gafael ar gymorth cyflogadwyedd?
E-bostiwch info@betterjobsbetterfutures.wales neu ffoniwch 01792 284450.
Sut ydw i’n cael gafael ar asesiadau ESOL?
Rydym yn parhau i gynnig asesiadau ESOL rhithwir ar Microsoft Teams.