Skip to main content

Pensaer Atebion Platfform Pŵer Arbenigol Ardystiedig Microsoft PL600 - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Tri Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r Pensaer Atebion yn gyfrifol am greu, gweithredu a datblygu datrysiad cyffredinol. Bydd yn sicrhau bod yr atebion yn diwallu anghenion cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid.

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu am y penderfyniadau sydd angen i Bensaer Atebion eu gwneud wrth weithredu datrysiad, gan fynd i’r afael a diogelwch, integreiddiadau, pensaernïaeth Power Apps, pensaernïaeth Power Automate a mwy. Bwriad y cwrs yw rhoi cyflwyniad i chi i rôl y Pensaer Atebion. 

Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft PL600, er mwyn ennill statws achrededig PL600.

Mae sefyll yr arholiad PL600 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Bydd gan ymgeiswyr brofiad o greu atebion ar gyfer disgyblaethau swyddogaethol a thechnegol Microsoft Power Platform. Byddwch yn gallu hwyluso penderfyniadau dylunio yn seiliedig ar arferion a argymhellir ar mewn perthynas â datblygu, cyflunio, integreiddio, seilwaith, diogelwch, trwyddedu, storio a rheoli newid.

Yn y rôl hon, mae'n ofynnol i chi greu atebion priodol gan sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus i fynd i'r afael ag anghenion busnes a thechnegol sefydliadau.

Bydd gennych ddealltwriaeth o:

  • Microsoft Power Platform
  • Apiau ymgysylltu â chwsmeriaid megis Dynamics 365 
  • Apiau Cwmwl Microsoft cysylltiedig
  • Technolegau trydydd parti eraill

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o fframwaith Power Platform, fframwaith Well-Architected ac yn ddelfrydol profiad o’i ddefnyddio ar gyfer gweithredu atebion.

I ddod yn Bensaer Atebion Platfform Pŵer Arbenigol Ardystiedig Microsoft llwyddiannus, bydd gofyn i chi sicrhau un o’r cymwysterau canlynol cyn cychwyn y cwrs: 

  • Ymgynghorydd Swyddogaethol Power Platform Ardystiedig Microsoft
  • Datblygwr Platfform Pŵer Cysylltiol Ardystiedig Microsoft  

Unedau’r cwrs:

  • Dod yn bensaer ar gyfer Dynamics 365 a Microsoft Power Platform
  • Canfod anghenion cwsmeriaid ac Atebion ar gyfer Dynamics 365 a Microsoft Power Platform
  • Cynnig atebion fel Pensaer Atebion ar gyfer Microsoft Power Platform a Dynamics 365
  • Diwallu anghenion Microsoft Power Platform a Dynamics 365
  • Cynnal dadansoddiad fit gap a llawer mwy!

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud Data â Power Platform.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

PL-600 Power Platform Solution Architect
Cod y cwrs: ZA1785 DLS5
27/01/2025
Online
2 days
Mon-Weds
9:30 - 5pm
£0