Defnyddio’r Gymraeg yn y Coleg

Ein nod fel Coleg yw hybu dimensiwn Cymreig, meithrin ethos Cymreig a chefnogi addysg a diwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ceisio gwneud y Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o’r Coleg, fel y mae mewn rhai ardaloedd o’r ddinas. 

Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg a bod cyfleoedd ar gael i chi ddefnyddio’ch Cymraeg wrth astudio ac wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Coleg.

Rydym yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn Gymraeg ac i ysbrydoli dysgwyr, myfyrywr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw. Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r cymorth. Gallwch chi ddarllen rhagor am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma > http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg mewn sawl maes dysgu. Tynnir sylw at y rhain yn y disgrifiadau o’r cyrsiau. Y gobaith yw ehangu hyn yn y dyfodol agos. Os gwelwch y symbol hwn mae darlithwyr Cymraeg eu hiaith ar y cwrs hwnnw. cy 

Diweddarwyd Tachwedd 2022