Mae'r cyrsiau hyn ar gael ar Lefelau 2 a 3, gan roi modd i fyfyrwyr amser llawn gofrestru ar y cwrs sy'n briodol i'w cymwysterau presennol. Mae cyrsiau diploma rhan-amser hefyd ar gael mewn Atgyweirio Cynhyrchion Electronig Defnyddwyr.
Chwilio am gwrs Peirianneg Electronig
Steve Williams
Ar ôl cael ei enwebu gan ei gydweithwyr yn yr Adran Beirianneg, cafodd Steve ei enwi'n Athro/Tiwtor BTEC Rhagorol 2013. “Mae hyn yn syndod llwyr ac mae'n anrhydedd mawr," dywedodd Steve, sydd wedi gweithio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ers 1983.Academi Nwyddau Gwyn a Brown
Rydym yn falch o weithio ar y cyd â'r Home Electrical Electronic Skills Training Forum (HEEST)
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cymorth gan gwmnïau nwyddau gwyn a brown ac mae hyn wedi rhoi modd i ni greu atebion hyfforddi pwrpasol ar gyfer y diwydiant. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu trwy ddysgu cyfunol, gan gynnwys:
- Addysgu 'cwmwl'
- Dosbarthiadau meistr sy'n cael eu cynnal yn ein gweithdy llawn cyfarpar a'n cyfleusterau labordy yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
- Cynlluniau dysgu unigol
- Gosodiadau cartref CAMPUS
Mae ffioedd cwrs ar gael ar gais.
Newyddion a Digwyddiadau Electronic Engineering
Eitemau Nodwedd
"Mae’r cwrs wedi galluogi i fi wneud yr hyn oeddwn i am ei wneud. Bellach, dw i’n astudio yn un o brifysgolion gorau’r DU ar gyfer Peirianneg a dw i wedi cael profiad gwaith diolch i gysylltiadau gwych y Coleg â diwydiant."
Michael Jones, Technoleg Ddigidol
Cysylltiadau gwych â diwydiant