Cysylltu ag Eduroam ar gyfer dyfeisiau Android

Dyma ganllaw i staff a myfyrwyr ar sut i gysylltu â rhwydwaith eduroam y coleg ar unrhyw gampws.

Cafodd y sgrinluniau isod eu tynnu ar Motorola G9 (android 11) a Samsung Galaxy J3 (android 9). Gellir defnyddio’r canllaw hwn ar gyfer dyfeisiau eraill megis tabledi Galaxy os oes angen.

Dadlwythwch gyfarwyddiadau

Noder:  Bydd dyfeisiau gwahanol yn cysylltu â’r Wi-Fi mewn ffyrdd gwahanol, gan na fydd gan bob dyfais yr un meddalwedd android ac ati.

Efallai y bydd y canllaw cyntaf yn fwy defnyddiol ar gyfer dyfeisiau android diweddar sydd â fersiwn uwch o’r feddalwedd. Yn yr un modd, gall yr ail ganllaw fod yn fwy defnyddiol ar gyfer phobl sy’n berchen ar ffonau sydd â meddalwedd android hŷn.

Os oes gennych broblemau yn cysylltu â’r Wi-Fi ar ôl ceisio dilyn y canllawiau hyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cyfrifiadurol drwy’r ddesg gymorth i gael gafael ar gymorth: https://helpdesk.gcs.ac.uk:8443/portal  ebost: cshelpdesk@gcs.ac.uk