Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
Am gwestiynau ynghylch cyfweliadau, ffoniwch ein staff derbynfa gymwynasgar yn Llwyn y Bryn ar 01792 284021. Neu, e-bostiwch matthew.miller@coleggwyrabertawe.ac.uk
Addysg Sylfaenol i Oedolion (ABE)
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael cymorth i wella sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol gyda hyfforddiant arbenigol. Mae adnoddau ychwanegol ar gael hefyd fel cyfrifiaduron, iPads a meddalwedd addysgol i helpu gyda llythrennedd ac anghenion dysgu ychwanegol.
Gallwch chi wella eich sgiliau Saesneg a mathemateg a all eich helpu chi i gael swydd, pasio'r prawf theori gyrru neu helpu'ch plant gyda'u gwaith cartref. Cynigiwn gyrsiau ar gampws Llwyn y Bryn a safleoedd Cymunedau yn Gyntaf lleol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch ein staff derbynfa gymwynasgar yn Llwyn y Bryn ar 01792 284021.
Cyrsiau paratoi IELTS
ESOL Mynediad 3, myfyrwyr Lefel 1 a Lefel 2
£10 yr awr, o leiaf wyth wythnos (£240), uchafswm o 18 wythnos (£540)
Rhedeg Ionawr tan Fehefin 2018
E-bostiwch matthew.miller@gcs.ac.uk i gael rhagor o fanylion
Chwilio am gwrs ESOL / Addysg Sylfaenol i Oedolion
Newyddion a Digwyddiadau ESOL Adult Basic Education
Eitemau Nodwedd
Defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddysgu
Roedd dysgwyr ABE ac ESOL wedi cymryd rhan yn y prosiect Sgiliau Hanfodol Rhanbarthol i ddatblygu sgiliau llythrennedd a llythrennedd digidol. Roedden nhw wedi mwynhau defnyddio iPads yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am hanes Abertawe drwy ddilyn llwybr cod QR.
Dysgwch Gymraeg hefyd!
Mae'r timau ESOL ac ABE wedi mynd i'r afael â rhai o sgiliau sylfaenol y Gymraeg a gweithgareddau ynganu diolch i Sgiliaith Cymru a'r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Anna Davies.